S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglenni criced byw S4C yn taro deuddeg

11 Mehefin 2010

  Mae gwasanaeth byw S4C o gemau Morgannwg yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Friends Provident wedi profi’n boblogaidd gyda mwy na chwarter miliwn o wylwyr yn troi i mewn i wylio hyd yn hyn.

Yn ôl ffigurau swyddogol BARB, roedd yna gyrhaeddiad o 251,000 yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig ar gyfer y ddwy gêm fyw gyntaf yn erbyn Swydd Gaerloyw a Hampshire a’r rhaglen rhagolwg arbennig.

Mae’r ymateb i’r sylwebaeth a’r termau criced newydd hefyd wedi bod yn aruthrol ar wefan S4C a’r gwasanaeth trydar, Twitter.

Mae’r Sianel yn darlledu pum gêm T20 Morgannwg yn fyw o Swalec Stadiwm am y tro cyntaf erioed yn ei hanes darlledu.

Mae’r rhaglenni Twenty20 ar gael i’w gwylio ar bob llwyfan yng Nghymru ac ar Sky 134 a Freesat 120 yn Lloegr,

Gemau byw nesaf S4C yw Sussex ddydd Sul 13 Mehefin, Essex ddydd Sadwrn 19 Mehefin a Gwlad yr Haf ddydd Mercher 14 Gorffennaf.

Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C: "Mae yna ddiddordeb mawr wedi bod yn y rhaglenni criced yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig. Mae yna ymateb arbennig wedi bod ar ein gwasanaeth Gwifren Gwylwyr ac ar ein gwasanaeth rhyngweithiol ar www.s4c.co.uk/criced a’r gwasanaeth trydar Twitter ar @s4carlein neu www.twitter.com/s4carlein .

"Mae gwylwyr ledled y wlad yn gwerthfawrogi’n gwasanaeth byw ni a’r arddull gyflwyno fywiog a deinamig. Mae’r ystod amrywiol o westeion a’r defnydd o dermau criced yn Gymraeg wedi denu cryn ddiddordeb.

"Mae ymateb arbennig wedi bod i’r gwaith o fathu termau newydd ar gyfer y gemau ugain pelawd, gyda thermau fel ‘colbad cryman’ am ‘slog sweep’ ac ‘Eryri’ am ‘Manhattan’yn taro deuddeg."

Mae tîm cyflwyno Criced ar S4C yn cynnwys y sylwebwyr Huw Llywelyn Davies a John Hardy, yr ystadegydd Alun Wyn Bevan, y dyfarnwr criced, Jeff Evans, y cricedwr Robert Croft, y gohebydd chwaraeon Dot Davies a’r actor a’r dilynwr criced brwd Steffan Rhodri. Yr athletwraig a chyflwynydd adnabyddus Angharad Mair sydd wrth y llyw.

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?