S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gemau’n fyw ar Sgorio ar nos Wener ar wefan S4C

15 Chwefror 2013

Mae S4C wedi lansio gwasanaeth newydd ar ei gwefan i ddilynwyr pêl droed i weld gemau’n fyw yn Uwch Gynghrair Cymru ar nosweithiau Gwener fel rhan o wasanaeth Sgorio.

Bydd y gêm gyntaf i’w gweld o 7.30 heno (nos Wener 15 Chwefror) – y gêm rhwng Prestatyn ac Airbus gyda Bryn Tomos yn sylwebu. Gellir gweld y gemau ar s4c.co.uk/clic

Meddai Comisiynydd Chwaraeon a Phennaeth Darlledu S4C, Geraint Rowlands:

“Mae hwn yn wasanaeth fyddwn yn ei gynnig yn wythnosol pan fydd yna gemau ar nos Wener. Mae’n atodol i holl wasanaeth presennol Sgorio sef gêm fyw a chanlyniadau a newyddion pêl droed ar brynhawn Sadwrn ac uchafbwyntiau Uwch Gynghrair Cymru a La Liga ar nos Lun.”

Bydd gêm Wrecsam yn rownd gynderfynol Tlws FA Lloegr yn cael ei dangos yn fyw ar S4C yfory (dydd Sadwrn 16 Chwefror). Bydd Wrecsam yn wynebu Gainsborough Trinity yn y cyntaf o ddau gymal yn y rownd gynderfynol.

S4C fydd yr unig sianel deledu i ddangos y gêm yn fyw gyda’r gic gyntaf am 12.45 (y rhaglen yn dechrau am 12.30) a bydd rhagor o bêl-droed i ddilyn wrth i Fangor herio Port Talbot yn Uwch Gynghrair Cymru yn fyw am 15.00.

Yn ystod y gêm, fe fydd modd i wylwyr wrando ar y sylwebaeth Gymraeg neu ddewis y sylwebaeth Saesneg drwy’r botwm coch. Bydd y gêm hefyd yn fyw ar wefan S4C ac ar gael am 35 diwrnod wedyn ar s4c.co.uk/clic

Fe fydd uchafbwyntiau’r ail gymal i’w gweld ar S4C ar Sgorio ar nos Lun 25 Chwefror am 10.00.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?