S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

£1,000,000 o aur dal yn cuddio oddi ar arfordir Sir Fôn

30 Gorffennaf 2013

Mae ffortiwn gwerth £1 miliwn yn dal i orwedd ar wely'r môr ar arfordir Sir Fôn, yn ôl heliwr trysor a deifiwr profiadol sydd wedi plymio i longddrylliad y Royal Charter ddegau o weithiau.

Mae Vincent Thurkettle wedi ei hudo gan hanes y llong a suddodd oddi ar arfordir Môn yn 1859 ac mae'r gyfres Trysor Coll y Royal Charter, ar S4C, wedi bod yn dilyn ei stori wrth iddo blymio unwaith eto i chwilio am yr aur coll.

"Dwi'n credu bod aur dal ynghudd yno. Roedd hi (y Royal Charter) mwy na thebyg yn cario ymhell dros £100 miliwn o aur (o leia' £80 miliwn o'r cargo, ac hefyd eiddo personol y teithwyr) a hyd yn oed petai 99% ohono wedi dod i'r fei erbyn hyn - mae'n golygu bod o leia’ miliwn yn dal ar goll!" meddai Vincent Thirkettle.

Roedd y llong ar ran olaf ei mordaith o Awstralia i Brydain, pan chwalwyd hi'n ddarnau gan rym un o'r stormydd gwaethaf i daro ynysoedd Prydain erioed, ar 26 Hydref 1859. Lladdwyd 497 o deithwyr a suddodd ei chargo gwerthfawr gyda hi. Ac ar ôl 150 o flynyddoedd yn gorwedd ar wely'r môr, mae Vincent yn cyfaddef ei bod hi'n anodd dod o hyd i unrhyw beth o werth ymysg gweddillion y llong.

"Mae'r gweddillion ar wasgar ar wely'r môr yn cynnwys unrhyw beth o grochenwaith i binnau gwnïo a glo," meddai. "Efallai na welwn ni fyth weddill yr aur. Fe all y cyfan fod wedi ei guddio mewn poced ymysg y creigiau neu'r clai, neu wedi ei wasgaru gan y cerrynt, neu ei ollwng pan gafodd rhan ôl y llong ei thorri a'i chario ymaith."

Ond mae Vincent wedi dod o hyd i greiriau fyddai wedi bod yn agos iawn at galon rhai o'r teithwyr. Yn eu plith mae modrwy fach gain o aur gyda charreg opal a diemwntau, a blwch snyff gyda'r enw Edward Bennett arno. Ym mhennod ola'r gyfres ar nos Fercher 31 Gorffennaf (7.30, S4C) bydd Vincent a cyflwynydd y gyfres Gwenllian Jones Palmer yn mynd ar drywydd hanes y creiriau hyn, gyda'r gobaith o ddod o hyd i aelod o deulu eu perchnogion.

"I fod yn onest, y straeon am yr aur coll oedd yn fy nenu i at y llong i ddechrau. Ond dros y blynyddoedd dwi wedi ymddiddori mwy yn y bobl a'u straeon nhw. Eu hantur, llwyddiannau, gobeithion a'r drasiedi – hefyd dewrder anhygoel y tîm achub o Moelfre," meddai Vincent, a oedd wrth ei fodd yn cael y cyfle i fynd ar drywydd hanes perchnogion y trysorau yn y gyfres ddogfen.

"Roedd chwilio am berchennog y fodrwy aur yn brofiad teimladwy. Doeddwn i erioed wedi meddwl am geisio dod o hyd i deulu'r perchnogion o'r blaen. Roedd yn ymddangos fel tasg amhosib - ond yna fe ddechreuon ni ddod o hyd i wybodaeth. Bydd rhaid i chi wylio'r rhaglen nos Fercher i weld a oedden ni'n llwyddiannus."

Mae Trysor Coll y Royal Charter yn gyd-gynhyrchiad rhyngwladol gan TiFiNi, S4C, Cronfa Cyd-gynhyrchu S4C, ITV a Foxtel Australia.

Trysor Coll y Royal Charter

Nos Fercher 31 Gorffennaf 7.30

Gwyliwch gweddill y gyfres ar-lein, ar alw, ar Clic

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?