S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pâr newydd o ddwylo yn gafael ar lyw Fferm Ffactor

20 Mawrth 2014

Pan fydd Fferm Ffactor yn dychwelyd i S4C gyda chyfres newydd yn yr hydref, mi fydd wyneb newydd wrth y llyw: Ifan Jones Evans, y cyflwynydd radio a theledu o Geredigion.

Ar ôl pum mlynedd, a phum cyfres, mae'r cyflwynydd Daloni Metcalfe wedi penderfynu ei bod yn bryd trosglwyddo'r awenau, a doedd dim angen i Ifan feddwl dwywaith cyn derbyn y cynnig!

"Mi wnes i dderbyn yn syth! Fel rhywun sydd wedi dilyn y gyfres, roeddwn i wrth fy modd yn cael cyfle i'w chyflwyno," meddai Ifan, mab fferm o Bont-rhyd-y-groes, ger Tregaron. "Dwi wedi gwylio pob un gyfres ers y gyntaf yn 2009 ac mae ffrindiau imi wedi bod ymhlith y cystadleuwyr hefyd."

Wrth i Ifan edrych ymlaen at y gyfres nesa, ac mae'n annog ffermwyr i roi eu henwau yn yr het i gymryd rhan. Mae'r dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr ar ddydd Gwener 4 Ebrill, 2014, gyda'r ffurflen gais ar gael ar wefan s4c.co.uk/ffermffactor

"Mae'n ddigon rhwydd gwylio gartre a dweud y gallwch chi wneud yn well. Ond faint ohonoch chi fyddai'n gallu cwblhau'r tasgau dan bwysau yn y fan a'r lle?" meddai Ifan, gan herio ffermwyr Cymru i roi cynnig arni!

"A chofiwch, mae'r wobr pick-up Isuzu newydd sbon yn un sy'n werth ei hennill. Ac ar ben hynny mae cymryd rhan yn y gyfres yn brofiad," ychwanegai Ifan, sydd yn helpu i redeg fferm fynydd y teulu, yn ogystal â'i waith ar deledu a'i raglen radio wythnosol ar C2, BBC Radio Cymru.

"Rwy'n gwybod bod ffermwyr i gyd yn brysur gartre ar y fferm, ond mae hwn yn gyfle i drio rhywbeth gwahanol a gweld os ydyn nhw lan i'r dasg! Os ydych chi'n cadw fferm ddefaid a bîff fel sy' 'da ni, byddai'r rhaglen yn gyfle i ddysgu godro. Neu os oes 'da chi fferm odro, dyma'ch cyfle chi i drio cneifio."

Dyna yw nod her Fferm Ffactor - profi'r ffermwyr ar bob agwedd o waith y diwydiant: gofal anifeiliaid, trin y tir, cynhyrchu bwyd, defnyddio peiriannau, yn ogystal â gwaith papur, gwybodaeth am reolau'r diwydiant, a sgiliau busnes a marchnata.

Yn gosod y tasgau mae'r beirniaid Yr Athro Wynne Jones, cyn-brifathro Coleg Amaethyddol Harper Adams, a'r ffermwr Aled Rees, o Aberteifi, pencampwr cyntaf Fferm Ffactor. Y nhw fydd yn rhoi'r ffermwyr drwy eu pethau. Gwaith Ifan yw annog, canmol a chynnig gair o gysur.

"Rwy'n credu bod y ffermwyr yn cael digon o amser caled gan y beirniaid, felly mae'n rhaid i fi fod yn gefnogol ac yn ysgwydd iddyn nhw grio arno, os oes angen! Ond, dydi hynny ddim yn golygu na fydd'a i'n tynnu arnyn nhw o dro i dro. Bydd digon o dynnu coes a digon o cheek!" meddai Ifan.

Bydd Fferm Ffactor yn dychwelyd i S4C yn yr hydref. Os am drio eleni, neu enwebu rhywun i gymryd rhan, llenwch y ffurflen gais ar wefan s4c.co.uk/ffermffactor erbyn dydd Gwener 4 Ebrill, 2014

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?