S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Her go real i Abertawe ar y Liberty

02 Awst 2014

 Fe fydd S4C yn darlledu gêm gyfeillgar Abertawe v Villarreal ar brynhawn Sadwrn 9 Awst yn fyw ar y we, s4c.co.uk (cic gyntaf, 3.00pm).

A bydd modd gweld y gêm gyfan eto ar S4C y diwrnod canlynol ddydd Sul 10 Awst am 4.00pm pan allwch ail-fyw holl gyffro’r gêm rhwng y tîm o Uwch Gynghrair Lloegr a sêr y clwb o La Liga yn y rhaglen Sgorio.

Fe fydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar y gwasanaeth botwm coch ar gyfer y ddau ddarllediad.

Dyma fydd y gêm barataol olaf cyn i Abertawe wynebu gêm gyntaf Uwch Gynghrair Lloegr yn erbyn Manchester United yn Old Trafford y Sadwrn canlynol.

Ac mae’n gryn sialens yn erbyn Villarreal o dde ddwyrain Sbaen sydd wedi bod yn cystadlu yn erbyn y cewri yng Nghynghrair Pencampwyr Ewrop dros y degawd diwethaf.

Dylan Ebenezer fydd yn cyflwyno o Stadiwm Liberty, gyda Malcolm Allen a John Hartson yn trafod a dadansoddi’r chwarae a Nic Parry yn sylwebu.

Hon yw’r ail gêm fyw rhwng un o dimau mawr Cymru a chewri’r cyfandir ar ôl i S4C ennill yr hawliau i ddarlledu gêm Caerdydd v VfL Wolfsburg.

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Chwaraeon a Rhaglenni Ffeithiol S4C, “Bydd yna gryn ddiddordeb yn y gêm yma rhwng timau o ddwy o gynghreiriau clwb mwya’r byd. Rydym yn falch iawn bod S4C yn gallu darlledu gêm a fydd o ddiddordeb i ddilynwyr y gêm ledled y Deyrnas Unedig.”

Mae Malcolm Allen, cyn-chwaraewr Cymru a Newcastle, yn credu y bydd y gêm yn llinyn mesur o sut mae Abertawe yn siapio o dan yr hyfforddwr Garry Monk.

“Dwi’n gwybod y bydd llawer o gefnogwyr Abertawe yn anghytuno hefo mi, ond dwi’n gweld yr Elyrch yn ei chael hi’n anodd iawn y tymor hwn.

“Rhaid iddyn nhw gael dechrau da neu fe fyddan nhw’n wynebu’r frwydr o geisio osgoi disgyn o’r Uwch Gynghrair o’r dechrau un.

“Mae gynnon nhw reolwr ifanc dibrofiad ac wedi colli amryw chwaraewr allweddol. Fe fydd yn anodd cael hyd i chwaraewyr i lenwi sgidiau Davies, Michu a Vorm.

“Ond os gallan nhw gael dechrau da - gan gynnwys buddugoliaeth swmpus yn y gêm gyfeillgar hon, fe all roi hyder i’r chwaraewyr yn yr ystafell newid. Fydd hi’n frwydr ddifyr yn erbyn tîm Villarreal sydd wedi bod ymhlith goreuon La Liga dros y blynyddoedd ond sy’n dal i ail sefydlu ei hun yn y Primera ar ôl un tymor yn yr adran is yn 2012-13.”

Sgorio: Abertawe v Villarreal, yn fyw ar s4c.co.uk ddydd Sadwrn 9 Awst am 3.00. Y gêm yn llawn ar S4C prynhawn Sul, 10 Awst, 4.00.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?