S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dim darllediad byw o rygbi Dan 20

15 Mehefin 2015

Ni fydd gêm ddiweddaraf Cymru ym Mhencampwriaeth Dan 20 y Byd yn cael ei darlledu yn fyw ar S4C.

Mae hyn am nad yw'r gêm rhwng Iwerddon (sydd yn y 6ed safle ar hyn o bryd) a Chymru (7fed safle) yn cael ei darlledu'n fyw gan y prif ddarlledwr yn Yr Eidal. Felly, nid yw'r adnoddau ar gael ar gyfer darllediad byw ar unrhyw sianel.

Mae S4C wedi ymrwymo i ddarlledu pob un o gemau Cymru yn y gystadleuaeth os yw'r signal byw ar gael gan y prif ddarlledwr, ac mae’n ddrwg gennym nad oes modd i ni ddarparu'r gêm yn fyw y tro yma.

Fodd bynnag, rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau y bydd pecyn byr o uchafbwyntiau'r gêm ar gael ar wefan S4C, s4c.cymru, yn dilyn y gêm yn hwyr nos Lun.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?