S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn penodi Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymwneud

23 Medi 2015

Mae S4C wedi cyhoeddi fod Gwyn Williams wedi cael ei benodi i swydd newydd Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymwneud.

Mae gan Gwyn Williams brofiad helaeth yn y byd darlledu, ac mae wedi cynhyrchu a chyfarwyddo cyfresi di-ri o'r gyfres Hel Straeon ar ddiwedd y 1980au i ddarllediad byw Ras yr Wyddfa yn 2005. Mae ei brofiad yn y maes darlledu yn cynnwys sawl rôl allweddol, yn cynnwys Prif Weithredwr cwmni Barcud yng Nghaernarfon (2007-2010), ac ef oedd un o sylfaenwyr y cwmni cynhyrchu Cwmni Da.

Cyn hynny, yn y 1990au roedd Gwyn yn un o sylfaenwyr cwmni cynhyrchu annibynnol arall, FiTi-TiFi oedd yn creu rhaglenni ffeithiol a rhaglenni i blant. Mae hefyd wedi gweithio'n llawrydd i nifer o gwmnïau annibynnol a'r BBC, ac mae ganddo brofiad o'r byd newyddion fel cyfarwyddwr Newyddion BBC Cymru.

Yn fwy diweddar, Gwyn Williams oedd Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Hybu a Gweinyddu Comisiynydd y Gymraeg, lle bu'n gweithio am dair blynedd a hanner. Mi fydd yn gadael y swydd honno er mwyn ymuno â thîm S4C ym mis Tachwedd.

Dywedodd Gwyn Williams; "Ar ôl dros dair blynedd hapus a chyffrous iawn gyda Chomisiynydd y Gymraeg, rwy'n edrych ymlaen at her newydd gydag S4C. Dyma sector dwi'n deall yn dda, ond yn gwybod hefyd fod heriau sylweddol yn wynebu S4C fel nifer o ddarlledwyr cyhoeddus eraill dros y blynyddoedd nesaf. Bydd cael gweithio gyda'r tîm brwdfrydig yn S4C ar gyfnod anturus yn fraint. Rhaglenni da yw corff ac enaid y sianel ac mae'r cyfle i gydweithio gyda chynhyrchwyr talentog yn un o'r pethau rwy'n edrych ymlaen ato fwyaf."

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C; "Llongyfarchiadau i Gwyn Williams ar ei benodiad i'r swydd newydd hon. Yn ogystal â phrofiad lefel uchel yn y byd cyfathrebu a hyrwyddo, mae Gwyn yn adnabod y byd darlledu yn dda, ac mi fydd y profiad yma yn allweddol iddo yn y rôl newydd hon gydag S4C. Rwy'n edrych ymlaen at ei groesawu i blith y staff yn fuan ac i gyd-weithio'n agos ag ef mewn cyfnod sy'n frith o heriau i S4C. Bydd ei brofiad yn werthfawr i'r sianel yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod."

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?