S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Amserlen lawn a chryf ar gyfer yr hydref ar S4C

08 Medi 2015

 O faterion cyfoes i ddrama, o Gwpan Rygbi’r Byd i adloniant, bydd rhaglenni'r misoedd nesaf ar S4C yn destun trafod – ac yn darparu cynnwys unigryw na allwch ei fethu.

Wrth lansio rhaglenni'r sianel ar gyfer yr hydref, ar fore Mawrth 8 Medi, dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C, Dafydd Rhys;

"Mae yna nifer o resymau i fod yn falch ac yn hyderus o'n cynnwys ar S4C ac mae tymor yr hydref am fod yn hynod o gryf. Mae cryfder yr amserlen ac ansawdd y rhaglenni yn dyst o bwysigrwydd gwaith S4C fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, wrth gynnig amrywiaeth eang o gynnwys eithriadol yn yr iaith Gymraeg.

"Ymhlith y cynnwys bydd digwyddiadau chwaraeon mawr sydd yn destun trafod i'r genedl, sef Cwpan Rygbi'r Byd 2015 ac uchafbwyntiau gemau pêl-droed rhagbrofol Euro 2016. Mae drama hefyd yn flaenoriaeth ac un o'n hamcanion ar gyfer eleni oedd cynyddu'r oriau o ddrama wreiddiol ar y sgrin. Cawn weld ffrwyth y dyhead hwnnw wrth i ni gyflwyno rhagor o ddrama wreiddiol yn ystod yr wythnos. Mae hynny'n cynnwys ail gyfres Lan a Lawr, Y Gwyll/Hinterland a 35 Diwrnod yn ogystal â dwy ddrama newydd yn y misoedd nesaf.

"Yn ogystal â'r prif benawdau yma, bydd hefyd sawl noson thematig i ddathlu gwaith y diweddar awdur T. Llew Jones a noson i ddathlu pen-blwydd arbennig y canwr Bryn Terfel yn 50 oed. Mae hi am fod yn dymor cryf o raglenni, ac mae hynny'n glod i dalent pobl greadigol yn y sector gynhyrchu annibynnol, yn y BBC ac ITV yn ogystal â holl staff gweithgar S4C."

I nodi rhai o uchelfannau'r amserlen ar gyfer y tymor,

•Bydd yr hydref yn llawn drama ar S4C, gan ddechrau gyda chyfres newydd o Lan a Lawr yn dychwelyd i S4C ar 9 Medi gyda mwy o straeon dramatig a thwymgalon. Byddwch yn falch i glywed bod ail gyfres Y Gwyll/Hinterland ar y sgrin o 13 Medi. Mae'r ddrama dditectif sydd wedi'i leoli yn Aberystwyth gyda Richard Harrington, Mali Harries, Aneirin Hughes, Hannah Daniel ac Alex Harries yn brif gymeriadau, wedi ei henwebu am bum gwobr BAFTA Cymru 2015, a bellach wedi ei gwerthu i dros 26 o wledydd. Ym mis Tachwedd, bydd cyfres newydd wedi ei lleoli mewn llys barn dychmygol yng ngogledd Cymru. Yn Dim ond y Gwir, byddwn yn dilyn gweithwyr yn y llys wrth eu gwaith ac yn eu bywydau personol. Ac yn dilyn llwyddiant 35 Diwrnod, bydd cyfres newydd ar 8 Tachwedd, a’r ddrama ddirgelwch wedi’i lleoli yng nghanol dinas Caerdydd y tro hwn. Yn ffilmio ar hyn o bryd, ar gyfer darlledu yn y flwyddyn newydd, mae drama Byw Celwydd, drama wleidyddol ei naws, gyda gwleidyddion. eu gweithwyr a newyddiadurwyr yn y prif rannau.

•Mae ymgyrch Cwpan Rygbi’r Byd 2015 ar ddechrau, ac fe fydd gwasanaeth S4C yn cynnwys naw gêm fyw, gan ddilyn holl gemau Cymru yn ystod y bencampwriaeth. A beth bynnag fydd tynged Cymru yn ystod y gystadleuaeth, byddwn yn darlledu'n fyw un gêm o rownd yr wyth olaf, un gêm o'r rownd gynderfynol, y gêm efydd a'r ffeinal. Mae gan S4C griw o gyn-chwaraewyr Cymru i’n tywys ni drwy’r bencampwriaeth gan gynnwys Dwayne Peel, Stephen Jones, Shane Williams, Deiniol Jones a Dafydd Jones. Bydd gwasanaeth S4C yn dechrau ar 18 Medi gyda darllediad o'r seremoni a'r gêm agoriadol Lloegr v Fiji yn Twickenham. Yn ogystal â'r darllediadau teledu, bydd y naw gêm ar gael i'w gwylio ar wasanaeth ar-lein ar-alw S4C, s4c.cymru.

•Yn ogystal â gemau byw, bydd S4C yn teithio'r wlad gydol y gystadleuaeth gyda rhaglen ganol wythnos Cwpan Rygbi'r Byd a Mwy. Yn cael ei darlledu mewn clwb rygbi gwahanol bob wythnos, bydd yn cynnwys uchafbwyntiau, dadansoddiad a barn y cefnogwyr a'r arbenigwyr am y gystadleuaeth. Ac mae'r gyfres Jonathan yn dychwelyd ar gyfer y gystadleuaeth hefyd.

•Bydd Codi Canu nôl ar y sgrin ar gyfer ymgyrch Cwpan Rygbi’r Byd wrth i gefnogwyr ymuno ag un o bum côr - y Gleision, y Dreigiau, y Scarlets a’r Gweilch yn ogystal â chôr yn cynrychioli clybiau’r Gogledd. Arweinydd Only Men Aloud, Tim Rhys-Evans fydd cyfarwyddwr cerddorol y gystadleuaeth.

•Mae tirwedd wyllt Cymru yn denu miloedd o bobl bob blwyddyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr awyr agored. Mae Cymru yn cael ei hadnabod fel un o'r llefydd gorau yn y byd ar gyfer chwaraeon awyr agored, ac mae'r galw am arweinyddion antur yn fwy nag erioed. Wedi ei ffilmio yng ngogoniant naturiol Parc Cenedlaethol Eryri a gogledd orllewin Cymru, bydd Ar y Dibyn yn dilyn chwech o bobl sy'n gobeithio gwireddu eu breuddwyd ac ennill swydd fel arweinydd antur. Yn gosod yr her ac yn profi eu gallu i'r eithaf, mae'r cyflwynydd a'r anturiaethwr Lowri Morgan, a'r arweinydd antur, Dilwyn Sanderson-Jones.

•Fel rhan o'r dathliadau pen-blwydd i nodi degawd cyntaf Canolfan Mileniwm Cymru, bydd S4C yn darlledu digwyddiad byw o Fae Caerdydd sy'n cynnwys dros 600 o gyfranwyr. Nia Roberts fydd yn ein tywys trwy'r digwyddiad a'r dathliadau, bydd yn cynnwys ystod eang o berfformwyr cyffrous.

•Bydd cyfres newydd gan yr awdures a'r cyflwynydd Bethan Gwanas, a’r cynhyrchydd a’r gantores Meinir Gwilym, yn trin a thrafod pob agwedd ar y menopôs – o'r doniol i'r difrifol. Mae Bethan Gwanas: Y Menopôs a Fi yn edrych ar sut mae cymdeithas wedi trin y menopôs dros y canrifoedd a'r amryw driniaethau sydd wedi'u cynnig i ferched ar hyd yr oesau.

•Ym mis Hydref bydd rhaglenni i ddathlu bywyd a gwaith T. Llew Jones, ar achlysur pen-blwydd y diweddar fardd ac awdur yn 100 oed. Ymhlith y rhaglenni arbennig bydd Beti George yn cyflwyno portread o’r llenor a'r dyn y tu ôl i’r wyneb cyhoeddus. Bydd cyfle hefyd i fwynhau yr addasiad ffilm o’r nofel Tan ar y Comin.

•Mae Rhestr yn gyfres gwis newydd gyda Huw Stephens, sydd wrth ei fodd â chwisus, yn cyflwyno. Mae yna gyfle i gystadleuwyr yn y stiwdio, a'r gwylwyr gartre', ennill gwobrau.

•Bydd dathliadau Bryn Terfel yn 50 yn noson o ddathliadau i nodi'r pen-blwydd arbennig, yn cynnwys sgwrs a chân gyda'r canwr o Bant-glas.

•Mae 'na gannoedd o erddi ar agor i'r cyhoedd yng Nghymru ac yn y gyfres newydd Gerddi Cymru bydd Aled Samuel yn ymweld â rhai ohonyn nhw. Yn eu plith mae Gardd Aberglasney yn Sir Gaerfyrddin, Gardd Bodnant yn Nyffryn Conwy, Castell Powis, Penllergaer ac Erddig.

•Edrychwn ymlaen at ail gyfres o Becws gyda Beca Lyne-Pirkis yn ein hysbrydoli gyda mwy o ryseitiau blasus. Ffermwyr o Gymru fydd yn brwydro i ennill teitl 'Ffermwyr Gorau'r Wlad’ yn Fferm Ffactor 2015, a'r tro yma byddan nhw'n cystadlu mewn timoedd.

Cadwch lygad ar wefan s4c.cymru neu lif cyfryngau cymdeithasol facebook.com/s4c.co.uk ac @s4c ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf am raglenni a chyfresi'r tymor.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?