S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C a chymeriadau Cyw yn bywiogi canolfan Gymraeg Caerfyrddin

16 Hydref 2015

Bu cymeriad hoffus S4C Cyw yn rhan o ddathliadau arbennig tref Caerfyrddin wrth i ganolfan Gymraeg Yr Atom gael ei hagor yn swyddogol gan y Prif Weinidog Carwyn Jones, ar ddydd Iau 15 Hydref.

Roedd S4C yn falch o gyd-weithio gyda datblygwyr Yr Atom er mwyn addurno ardal arbennig i blant gyda lluniau o gymeriadau hoffus byd Cyw, y rhaglenni poblogaidd i blant 3-7 oed.

Meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Adleoli a Phrosiectau S4C; "Roeddem yn falch iawn o gyd-weithio gyda thîm Yr Atom yng Nghaerfyrddin er mwyn cynnwys byd Cyw a'i ffrindiau yn rhan o'r ganolfan newydd hon. Rydym yn falch iawn fod Cyw yn mynd i chwarae rôl yng ngwaith y ganolfan, i hybu'r iaith a'r diwylliant ymysg aelodau ieuengaf y gymuned a'u rhieni hefyd, gan obeithio gallu ymestyn i gynnwys canolfannau eraill yn y dyfodol.

"Mae gan S4C, fel yr unig sianel deledu iaith Gymraeg yn y byd, rôl bwysig yn hybu a hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Mae gwasanaethau fel Cyw yn amhrisiadwy i gyflwyno'r Gymraeg mewn modd sy'n apelio at blant bach, i ddysgu'r iaith o'r crud, ac i annog eu rhieni i ddefnyddio'r iaith hefyd. Mae cyfraniad aruthrol S4C i ddyfodol yr iaith yn rhywbeth sy'n rhaid ei ystyried yn rhan o'r trafod am ddyfodol y sianel, a bod y rhaglenni yn ogystal â'r gwaith mewn cymunedau yn gallu parhau."

Dywedodd Gwydion Wynne, Cyfarwyddwr canolfan Yr Atom; "Yn yr Atom rydym yn ymfalchïo yn ein partneriaeth ag S4C ac yn hynod falch bod y sianel wedi noddi wal yn ystafell y Cylch Meithrin. Mae ymateb ein hymwelwyr ieuengaf wrth iddyn nhw weld Cyw a’i ffrindiau ar y wal, yn amhrisiadwy. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gyd-weithio â’r sianel yn ystod y tair blynedd nesaf wrth i’r Atom flaenaru’r tir ar gyfer dyfodiad S4C i dref Caerfyrddin yn 2018. Mae’n gyfnod tu hwnt o gyffrous."

Mae S4C yn cefnogi dysgwyr Cymraeg mewn nifer o ffyrdd bob dydd. Yn bennaf, mae'r gwasanaeth Dal Ati sy'n cynnwys rhaglenni arbennig ar gyfer dysgwyr, yn ogystal â gwefan llawn adnoddau defnyddiol ac ap er mwyn ymarfer yr iaith ym mhob man!

Yn ddiweddar fe gyflwynwyd adnodd newydd ar ap Dal Ati sy'n darparu ffrwd geirfa fyw wrth wylio cyfres boblogaidd Y Gwyll/Hinterland. Yn yr un modd, mae gwasanaeth @TifiaCyw yn cynnig geirfa ddefnyddiol sy'n help i rieni di-gymraeg wylio rhaglenni Cyw gyda'u plant. Mae holl wybodaeth am raglenni, adnoddau ac ap Dal Ati ar gael ar y wefan s4c.cymru/dalati

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?