S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i glywed barn Cymry Llundain mewn Noson Gwylwyr

27 Tachwedd 2015

 Mae S4C yn awyddus i glywed barn gwylwyr yn Llundain ynghylch rhaglenni a gwasanaethau'r sianel, mewn noson i'w chynnal yng Nghanolfan Cymry Llundain.

Bydd Noson Gwylwyr S4C yn cael ei chynnal yn y ganolfan ar nos Fawrth 1 Rhagfyr 7.00. Mi fydd yn gyfle i wylwyr drafod yn uniongyrchol â Phrif Weithredwr S4C, Ian Jones a Chadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones.

Mae croeso i bawb ac mi fydd system ddolen sain ac offer cyfieithu yn cael eu darparu. Mae'r noson yn gyfle i chi roi barn eich am raglenni a gwasanaethau S4C, i ofyn cwestiynau, neu i gynnig syniadau am beth yr hoffech chi ei weld ar y sianel deledu Cymraeg cenedlaethol.

Meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C; "Rydym yn ymwybodol iawn o'r gefnogaeth sydd i S4C ymhlith cymunedau o Gymry yn Llundain. Mae'r niferoedd sy'n gwylio cynnwys S4C ar draws y DU ar gynnydd ac mi fydd yn ddiddorol clywed pa raglenni sy'n denu gwylwyr Llundain at y sianel, yn ogystal â chlywed eu barn am y gwasanaeth cyfan.

"Mae S4C yn wynebu cyfnod heriol o ran ei sefyllfa ariannol. Yn dilyn cyhoeddi Adolygiad Gwariant Cyffredinol Llywodraeth y DU, cafodd S4C wybod fod yr arian sy'n dod yn syth gan y Llywodraeth yn mynd i gael ei dorri dros y pedair blynedd nesaf. Mae'r newyddion yma yn rhoi pwyslais hyd yn oed mwy tyngedfennol ar ganlyniad y trafodaethau rydym yn eu cynnal gydag Ymddiriedolaeth y BBC wrth i ddyfodol ariannu S4C drwy ffi'r drwydded gael ei benderfynu.

"Mae cynnwys barn gwylwyr yn y drafodaeth honno yn holl bwysig wrth i ni ddadlau ein hachos dros sicrhau fod y sianel yn cael ei hariannu'n ddigonol ar gyfer cynnal gwasanaeth cyflawn o safon i'r dyfodol."

Yn dilyn cyhoeddi Adolygiadau Gwariant Cyffredinol Llywodraeth y DU, cafodd S4C wybod y bydd yr arian y mae'n ei dderbyn gan yr Adran dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Celfyddydau yn cael ei dorri dros y pedair blynedd o 2016/17 hyd at 2019/2020. Bydd toriadau cynyddol yn digwydd dros y cyfnod gan ddod a'r cyfraniad blynyddol i lawr o'r £6.7m presennol i £5m erbyn 2019/20.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?