S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gêm fawr Y Seintiau Newydd yn Nicosia yn fyw ar S4C

15 Gorffennaf 2016

 Bydd gêm hollbwysig y Seintiau Newydd yn ail gymal ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn erbyn pencampwyr Cyprus, APOEL, yn fyw ac yn ecsgliwsif ar S4C.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae ym mhrifddinas Cyprus, Nicosia nos Fawrth 22 Gorffennaf (rhaglen yn dechrau, 5.45, cic gyntaf 6.00).

Camerâu sioe bêl-droed S4C, Sgorio fydd yn fyw yn y gêm, gyda'r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan Geraint Hardy a'r tîm.

Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar y gwasanaeth botwm coch. Mae’r rhaglen ar gael i'w gwylio ar bob llwyfan yng Nghymru ac ar lwyfannau Sky a Freesat yng ngweddill y DU; ac ar-lein ar s4c.cymru ledled y DU.

Fe lwyddodd pencampwyr Cymru i sicrhau gêm gyfartal 0-0 yn y cymal cyntaf yn Neuadd y Parc ddydd Mawrth diwethaf, gêm a gafodd ei dangos yn fyw ar y sianel.

Fe fydd cefnogwyr tîm Cymru yn cofio Stadiwm GSP, Nicosia yn iawn gan mai yno y seliodd Gareth Bale fuddugoliaeth bwysig i Gymru yn erbyn Cyprus ym mis Medi 2015.

Mae hyfforddwr Y Seintiau Newydd Craig Harrison yn gwybod y byddai gêm gyfartal 1-1 neu 2-2 yn ddigon i sicrhau lle i’w dîm yn rownd nesaf y gystadleuaeth.

Dywedodd Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon S4C, Sue Butler, "Rydym yn falch iawn ein bod yn dangos y gêm yn fyw ar y sianel. Bydd yna ddiddordeb mawr yn y gêm ymhlith ein gwylwyr yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig.”

Ni fydd y rhaglen Heno yn cael ei darlledu fel y trefnwyd yn wreiddiol ac fe fydd ailddarllediad Pobol y Cwm, a oedd yn yr amserlen ar gyfer 6.30 yn wreiddiol, yn awr yn cael ei dangos Nos Fercher 23 Gorffennaf am 6.00.

Mae Sgorio yn cael ei chynhyrchu gan Rondo Media ar gyfer S4C.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?