S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cadeirydd S4C: Croesawu cyfeiriad cefnogol at S4C ym Mhapur Gwyn y BBC

12 Mai 2016

Yn dilyn cyhoeddi'r Papur Gwyn ar ddyfodol y BBC heddiw (12 Mai, 2016), mae Cadeirydd Awdurdod S4C Huw Jones wedi croesawu'r cyfeiriad "penodol a chefnogol at S4C".

Meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C; "Rwy'n croesawu'r ffaith fod y Llywodraeth wedi gweld yn dda i gynnwys cyfeiriad penodol a chefnogol at S4C yn y Papur Gwyn.

"Mae'r cyfeiriadau at sicrhau parhad annibyniaeth S4C dan y drefn newydd, ynghyd â'r bwriad i sicrhau eglurder a sicrwydd cyllido ar gyfer y gwasanaeth, i'w croesawu'n fawr.

"Yn naturiol, bydd disgwyl i'r Adolygiad annibynnol o S4C, sydd i'w gynnal yn 2017, roi sylw mwy manwl i sut yn union y mae hyn yn mynd i gael ei wireddu yn y tymor hir ac fe fyddwn yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn y drafodaeth gyhoeddus ynglŷn â'r materion hyn pan ddaw'r amser"

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?