S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Premiere Parch yn Sinemaes yn yr Eisteddfod Genedlaethol

29 Gorffennaf 2016

Bydd modd i wylwyr y gyfres ddrama boblogaidd Parch, gael tamaid i aros pryd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni eleni, wrth i'r bennod gyntaf yn y gyfres newydd sbon gael ei dangos ar y maes.

Bydd premiere Parch yn digwydd ym mhabell Sinemaes ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol fore Mercher, 3 Awst am 11 y bore.

Bydd Parch yn dychwelyd i S4C ar nosweithiau Sul, 4 Medi; mae'r gyfres wedi ei hysgrifennu gan yr awdures ddawnus o Landysul, Fflur Dafydd, sydd hefyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae'r ail gyfres yn serennu Carys Eleri fel Myfanwy, sydd bellach yn ficer cymunedol sy'n ymladd gyda sgil effeithiau’r driniaeth ar ei hymennydd.

Darlledwyd cyfres gyntaf Parch y llynedd ar S4C a chynhyrchwyr y gyfres yw’r cwmni cynhyrchu llwyddiannus o Gaerdydd, Boom Cymru.

Bydd y gyfres gyntaf i'w gweld eto bob nos Sul yn ystod mis Awst, ac yn gyfle i wylwyr S4C fwynhau'r gyfres unwaith eto cyn dechrau'r ail gyfres ym mis Medi.

Y flwyddyn nesaf bydd ffilm newydd i'w gweld ar S4C, Y Llyfrgell, hefyd wedi'i hysgrifennu gan awdur Parch, Fflur Dafydd.

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn Sinemaes bydd modd mynychu gweithdy Y Llyfrgell, 'Sut i greu ffilm newydd gyda Fflur Dafydd ac Euros Lyn'. Bydd modd gwylio'r ffilm yn gyfan yn Sinema'r Fenni, nos Lun, 1 Awst am 7.30.

Ymysg y dangosiadau a gweithgareddau eraill yn Sinemaes yn ystod yr wythnos y bydd dangosiad o’r ffilm Yr Ymadawiad, fydd i'w gweld ar S4C y flwyddyn nesaf. Mae'r ffilm yn serennu Mark Lewis Jones, Annes Elwy a Dyfan Dwyfor ac wedi'i ysgrifennu gan un o grewyr Y Gwyll/Hinterland, Ed Talfan.

Bydd criw Pobol y Cwm hefyd yn Sinemaes yn cynnal gweithdy 'Sut i gychwyn gyrfa' gyda'r cynhyrchydd Llyr Morus yn arwain y sgwrs.

Mae llu o raglenni S4C i'w gweld yn ystod yr wythnos, nifer fawr ohonynt yn hen glasuron o'r archif.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?