S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Partneriaeth newydd rhwng S4C a’r Swyddfa Dywydd

01 Rhagfyr 2016

Boed law neu hindda, bydd gwasanaeth tywydd newydd S4C yn cael ei lansio ar 1 Rhagfyr gan ddechrau ar bartneriaeth gyffrous rhwng y Swyddfa Dywydd ac S4C.

Y Swyddfa Dywydd yw Gwasanaeth Tywydd Cenedlaethol Prydain ac mae’r sefydliad yn enwog ar draws y byd am ei arbenigedd yn darogan y tywydd. Yn ôl safonau a osodwyd gan Sefydliad Feteoroleg y Byd, model darogan y Swyddfa Dywydd yw’r un mwyaf cywir ar y ddaear.

Gyda thywydd Cymru mor gyfnewidiol ar adegau, bydd y system sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, awdurdodau lleol, Gwylwyr y Glannau a thimau achub mynydd, yn siŵr o wneud gwahaniaeth yn ôl Steffan Griffiths, sy’n rhan o dîm cyflwyno’r tywydd gyda Chris Jones ac Yvonne Evans.

“Mae gan y Swyddfa Dywydd enw da a hygrededd pan mae hi’n dod at ddarogan y tywydd. Maen nhw’n cydweithio gyda bron iawn pob sector a diwydiant - a rhan fechan o’u gwaith yw gwaith darlledu,” esbonia Steffan sy’n dod o Peniel yn Sir Gaerfyrddin.

“Y Swyddfa Dywydd yw’r ddarpariaeth orau o ran y tywydd ac mae ein partneriaeth gyda nhw’n golygu y bydd y gwylwyr yn elwa ar ragolygon tywydd o’r ansawdd uchaf.”

Yn ogystal, bydd y gwasanaeth tywydd newydd yn defnyddio system graffeg Visual Cortex sydd wedi cael ei ddatblygu gan Presentation Cartography i’r Swyddfa Dywydd. Mae’r system yn defnyddio ystod eang o ddata am y tywydd er mwyn darogan yn ogystal â chynnwys gwybodaeth am y traffig a’r amgylchedd.

Ychwanegodd Steffan: “Mae’r tri ohonom - Chris, Yvonne a finnau - yn gyffrous iawn am y graffeg gan ein bod ni’n symud o symbolau statig i graffeg sy’n symud ar draws y sgrin. A gan fod gennym ni fynediad at y doreth o wybodaeth sy’n cael ei gasglu gan y Swyddfa Dywydd, mae’r potensial i wneud pethau gwahanol yn anferth.”

Bydd gwefan ac ap newydd sbon hefyd yn cael eu lansio i gyd-fynd â’r gwasanaeth newydd gan ddod a holl dechnoleg y Swyddfa Dywydd yn syth i’ch cyfrifiadur neu declyn. A gyda chynnydd dramatig yn nifer ymwelwyr antur i Gymru, does dim dwywaith y bydd ap tywydd newydd S4C yn hanfodol wrth grwydro mynyddoedd Eryri neu lwybr arfordir Sir Benfro.

Meddai Tom Shapland, pennaeth cyfryngau a phartneriaethau cynnwys yn y Swyddfa Dywydd:

"Rydym yn hynod falch o fod mewn partneriaeth ag S4C gyda’r gwasanaeth tywydd ar ei newydd wedd. Bydd cynulleidfaoedd Cymru yn gweld gwahaniaeth go iawn i'r gwasanaeth tywydd gan y bydd y system graffeg newydd yn dod a thirwedd Cymru yn fyw a bydd y rhagolygon yn fwy atyniadol. Yn ychwanegol at y darlledu, bydd defnyddwyr gwefan ac ap S4C Tywydd hefyd yn elwa ar ein rhagolygon byd enwog yn ogystal â’n Rhybuddion Tywydd Garw Cenedlaethol fel y gall pawb baratoi at aros yn ddiogel, beth bynnag fo’r tywydd."

Meddai Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol S4C, Llion Iwan: “Rydym ni’n medru profi tywydd gwahanol iawn ar yr un diwrnod yng Nghymru. Bydd ein gwasanaeth tywydd yn medru rhoi’r wybodaeth diweddara yn gyson, a hynny’n gywir i ardaloedd penodol. Mae’n enghraifft wych o sut mae S4C yn darparu gwasanaeth cyfoes i Gymru gyfan.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?