S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C-ALCIO! Abertawe v Sampdoria YN FYW ar y sianel

29 Gorffennaf 2017

Bydd y gêm gyfeillgar rhwng Abertawe a’r cewri Serie A o’r Eidal, Sampdoria, yn cael ei darlledu yn FYW ac yn ECSLIWSIF ar S4C.

Y gêm yma’n Stadiwm Liberty ar brynhawn Sadwrn 5 Awst fydd y gêm olaf cyn i’r Elyrch ddechrau eu hymgyrch yn Uwch Gynghrair Lloegr y penwythnos canlynol gyda thaith i Southampton.

Bydd y gêm yn cael ei dangos yn fyw ar S4C, yn ogystal â’i gweddarlledu ar s4c.cymru, o 5.00pm ymlaen, gyda’r gic gyntaf am 5.15pm. Bydd Sgorio ar gael i'w gwylio ar draws y Deyrnas Unedig.

Bydd cewri pêl-droed Cymru John Hartson a Dai Davies yn ymuno â Dylan Ebenezer yn y stiwdio; Nicky John ar ochr y cae, a Nic Parry a Malcolm Allen yn sylwebu.

Yn ymuno â Mark Jones am y sylwebaeth Saesneg ar y gwasanaeth botwm coch a gwasanaethau sain eraill fydd Cameron Toshack, hyfforddwr llwyddiannus tîm dan 23 Abertawe, a dyn sydd â chysylltiad agos â’r Elyrch ers oes aur yr 1980au dan arweiniad ei dad, John Toshack.

Dywedodd Llion Iwan, Pennaeth Dosbarthu Cynnwys S4C, "Rydym yn falch iawn ein bod yn dangos y gêm bwysig hon. Bydd yna ddiddordeb mawr yn y gêm ymysg cefnogwyr pêl-droed fydd yn awyddus i weld sut mae carfan Paul Clement yn perfformio ar ddechrau ei dymor llawn cyntaf wrth y llyw. Mae Sampdoria yn glwb ag iddo hanes disglair a thîm sy’n gwybod sut i oroesi a ffynnu yn Serie A ac fe fyddan nhw’n her anodd i’r Elyrch."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?