S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfle i wylio ffilm Anorac ar deledu am y tro cyntaf

25 Mawrth 2019

Bydd ffilm am gerddoriaeth Gymraeg sy'n serennu'r cyflwynydd Huw Stephens yn cael ei ddarlledu ar S4C.

Gyda'r ffilm eisoes wedi teithio sinemâu ledled Cymru, bydd darllediad arbennig o Anorac, cynhyrchiad Boom Cymru, ar S4C nos Iau, 4 Ebrill am 9.30.

I ddathlu 50 mlynedd ers i glustiau'r byd glywed cerddoriaeth roc Gymraeg am y tro cyntaf, aeth y Cymro o Gaerdydd, Huw Stephens, ar bererindod gerddorol o Gymru. Cynhyrchiad ei bererindod ydi Anorac, ffilm sy'n peintio darlun o sin gerddorol Gymraeg ddoe a heddiw Cymru.

Yn enw adnabyddus yn genedlaethol fel cyflwynydd ar Radio 1, mae Huw wedi cyfrannu'n ddiflino i gefnogi cerddoriaeth o Gymru. Ymhlith rhai o'i gyfraniadau i'r diwylliant cerddorol mae sefydlu Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd a'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, heb sôn am y gefnogaeth mae wedi rhoi i gerddorion o Gymru ar donfeddi ar ei raglenni ar Radio 1, Radio 6 Music a Radio Cymru.

A ninnau nawr mewn cyfnod o hinsawdd gerddorol gyfoethog yn y Gymraeg, gwelodd Huw Stephens a'r cynhyrchydd, Gruffydd Davies, y cyfle i ddogfennu gwaith y cerddorion amrywiol sy'n ffurfio'r diwylliant gerddorol Cymraeg.

"Weithiau mae rhaid cymryd cam yn ôl ag edrych ar bethau amlwg ac arbennig o'n cwmpas," meddai Huw Stephens, sydd newydd lanio nôl ym Mhrydain wedi pererindod gerddorol o fath gwahanol yn Nhecsas, UDA, yng ngŵyl gerddorol South by Southwest ar ran Radio 1. "Mae Anorac yn nodi cyfnod cyffrous sin gerddoriaeth mewn iaith leiafrifol, sydd yn dal i greu cerddoriaeth o safon ers 50 mlynedd."

Gyda dim ond anorac felyn ar ei gefn, dogfennwyd taith Huw o Gaerdydd i Geredigion ac o Glwyd i Gaernarfon wrth iddo adrodd chwedl gerddorol yr iaith drwy seiniau ein cerddorion amrywiol o bob cornel o'r wlad.

Gan ddechrau ei bererindod yng Nghaerdydd cyn anelu am y gogledd, mae Huw am gwrdd ag enwau megis Gwenno, Dave Datblygu, Georgia Ruth, Gruff Rhys a'r chwedlonol, Meic Stevens. Cerddorion sydd oll yn cyfrannu'n wahanol iawn i'r hyn sy'n ffurfio'r traddodiad cerddorol Gymraeg.

"Roedd hi'n bleser ac yn hynod ddiddorol i wrando ar y cerddorion yn perfformio a siarad am eu crefft," ychwanegodd Huw. "Ffilm 'ar y lôn' yw Anorac, shwrnai o amgylch ein gwlad brydferth, yn cwrdd â cherddorion sy'n creu heddiw. Mae'r ymateb i'r ffilm o'r dangosiadau sinema wedi bod yn bositif iawn, gyda rhai yn clywed a dysgu pethau newydd ar yr un pryd!"

O deithiau trên, i fys, neu hyd yn oed fodio lifft oddi ar ochrau lonydd troellog Cymru, bydd Huw yn teithio'r wlad yn profi perfformiadau cerddorol, gan rannu gyda'r cerddorion eu gweledigaeth am y diwylliant cerddorol Gymraeg, o'r roc i'r pop, ac o'r rap i'r gwerin.

Nid yn unig y mae'r ffilm yn taflu golau ar gerddoriaeth Cymru, mae Anorac yn adlewyrchiad o brydferthwch ac amrywiaeth ddaearyddol arbennig y wlad. O ardaloedd dinesig y de, i arfordiroedd godidog bae Ceredigion ac i diroedd agored, gwledig Llŷn, mae Huw yn stopio mewn lleoliadau nodweddiadol.

Mae Anorac yn ffilm hanesyddol ond eto'n gyfoes.

Gwyliwch, nos Iau, 4 Ebrill am 9.30 ar S4C.

Bydd Anorac ar gael i'w gwylio yn rhyngwladol ar S4C Clic, BBC iPlayer a llwyfannau eraill am 150 diwrnod wedi'r darllediad ar 4 Ebrill.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?