S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ymlaen â’r Sioe! Wythnos o raglenni arbennig ar S4C

15 Gorffennaf 2020

Efallai fod y Sioe Frenhinol wedi ei chanslo eleni, ond fydd gwylwyr S4C ddim ar eu colled yn llwyr gan fod wythnos lawn o raglenni arbennig ar gael i ddathlu digwyddiad pwysicaf y calendr amaethyddol yng Nghymru.

Yn ogystal â chael cyfle i ail fyw rai o uchafbwyntiau mwyaf cyffrous yng nghystadlu diweddar y sioe, bydd cyfle i wylwyr bleidleisio am eu hoff anifail ar-lein neu hyd yn oed arddangos eu talentau cudd.

Mae'r wythnos o raglenni yn dechrau ar nos Sul, 19 Gorffennaf am 8.00 gyda rhaglen arbennig Ymlaen â'r Sioe gydag Ifan Jones Evans a Mari Lovgreen yn edrych ymlaen at wythnos o adloniant o Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Nia Roberts fydd yn cyflwyno'r rhaglenni yn ystod y dydd o 4.00 tan 6.00, dydd Llun, 20 Gorffennaf i ddydd Iau, 23 Gorffennaf. Fydd hi'n edrych yn ôl ar Brif Bencampwriaeth pob diwrnod, esbonio'r sut a pham, gan gynnig cyfle bob dydd i'r gwylwyr hefyd ddewis Pencampwr y Pencampwyr o blith uchafbwyntiau'r pum mlynedd gofiadwy ddiweddar.

Hefyd, bydd blas ar weithgareddau eraill y Sioe gydag Aeron Pughe, Alun Elidyr a Meinir Howells a fydd hefyd yn rhannu eu hatgofion nhw am y Sioe.

Gyda'r nos fe fydd cyfres o raglenni yn fyw o Lanelwedd gydag Ifan Jones Evans a Mari Lovgreen sef - Ymlaen â'r Sioe. Bydd y rhaglen hon yn dod â blas o'r wythnos y bydd cymaint yn hiraethu amdani.

Yn y rhaglen deuluol hon, byddwn yn trafod pob math o elfennau o'r Sioe - yr hoelion wyth, y stoc gorau, cynnyrch a'r straeon cofiadwy dros y blynyddoedd.

Yn ogystal â chyhoeddi enillwyr y cystadlaethau dyddiol sef Bridwyr y Buarth a Phencampwyr y Sioe, bydd Mari yn wynebu heriau dyddiol fel cneifio, torri coed ac arddangos.

Yn ymuno gyda'r ddau, fe fydd wynebau cyfarwydd i drafod bob math o atgofion o'r sioe yn ogystal â chyflwyno sawl eitem newydd fel coginio gyda Chris 'Flamebaster' Roberts a thalent ifanc y byd amaethyddol.

Bydd pedair rhaglen ddyddiol am 8.00-9.00 nos Lun, 20 Gorffennaf i nos Iau, 23 Gorffennaf.

Meddai Ifan: "Wel, mae'r Sioe Frenhinol yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i fi ers imi fod yn grwtyn bach yn mynd gyda mam a dad a nawr gyda fy nheulu fy hunan. Mae'n golygu cymaint i bobl gefn gwlad Cymru ac mae gwacter mawr yn mynd i fod eleni."

"Ond dw i'n edrych ymlaen at weithio gyda Mari unwaith eto - da ni wedi bod yn tecstio ein gilydd nôl a 'mlaen. Da ni'n gobeithio bydd y rhaglen yn llenwi bwlch a dod a rhywbeth i fywydau pobol."

"Byddwn yn edrych yn ôl ar enillwyr y Sioe ond hefyd byddwn yn dathlu'r byd amaeth fel mae e ar hyn o bryd - gweld y stoc a chlodfori'r hyn sydd yn bwysig. Da ni eisiau cynnig teimlad o berthyn, teimlad naws cartref - y pethau mae cymaint o bobl yn caru am y Sioe."

Nia Roberts sy'n cymryd yr awenau unwaith eto am 9.00 bob nos Lun i Iau am 9.00, gydag awr o uchafbwyntiau Pencampwyr y Sioe.

Noddir Y Sioe 2020 gan Goleg Meirion-Dwyfor Glynllifon.

Y SIOE 2020

Ymlaen âr Sioe, Nos Sul 19 Gorffennaf 8.00, S4C

Dydd Llun, 20 Gorffennaf – Dydd Iau, 23 Gorffennaf

Pencampwyr y Sioe – 4.00yp a 9.00yh

Ymlaen â'r Sioe – 8.00yh

Gwefan y Sioe - s4c.cymru/sioe

Isdeitlau Saesneg

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Boom ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?