Y Wasg

Y Wasg

Arlunydd cyfoes yn cynnig gwobr gwerth chweil i ffans Eve Myles

2 Tachwedd 2020

Mae'r arlunydd Nathan Wyburn, sy'n wreiddiol o Lynebwy, yn prysur gwneud enw iddo'i hun am ei steil arloesol o greu.

Ac os nad ydych yn gyfarwydd a'r enw, mae siawns go dda eich bod wedi gweld ei waith sy'n aml iawn wedi'u creu o ddeunyddiau amgen, fel bwyd.

"Rwy'n tueddu cael fy syniadau o'r byd o 'nghwmpas" meddai Nathan.

"Mae fy meddwl o hyd yn llawn syniadau ac rwy'n cael fy ysbrydoli gan y newyddion, materion cyfoes a'r pobl yn y straeon.

"Cymerwch y llun diweddar a wnes i o Donald Trump er enghraifft.

"Ro 'ni wedi bod yn casglu mygydau ers dechrau'r cyfnod clo cyntaf, gyda'r teimlad y byddai cyfle da i'w defnyddio.

"A phan ddaeth y newyddion fod Donald Trump yn dioddef o Covid, cefais y syniad o greu darlun ohono allan o'r masgiau.

"Gwnes i un o Capten Tom Moore hefyd, ac i gydnabod ei gamp o godi arian – penderfynais greu trwy gerdded y paent ar ddarn enfawr o bapur.

"Mi wnes i'n siwr fy mod yn defnyddio hen bâr o trainers ar gyfer hwn!".

Bellach yn byw yng Nghaerdydd, daeth Nathan i sylw'r byd gyntaf yn 2011 pan gyrhaeddodd rownd cyn-derfynol Britain's Got Talent.

Mi wnaeth ddarlun o un o'r beirniaid, Michael Mcintyre, allan o Marmite ar dost.

Ers hynny, mae ei waith wedi denu miloedd o ddilynwyr at ei gyfrifon cymdeithasol, gan gynnwys comisiynau gan neb llai na Mariah Carey a Shirley Bassey.

A beth yw ei brosiect diweddara?

Gan fod cyfres newydd o Un Bore Mercher wedi dechrau ar S4C, mae Nathan wedi creu teyrnged arbennig i'w ffrind Eve Myles sy'n chwarae rhan Faith Howells - mam, gwraig a chyfreithwraig sy'n ceisio dal popeth gyda'i gilydd.

"Rwy'n adnabod Eve yn dda, a gan mai dyma'r tro olaf y byddwn yn dilyn bywyd prysur Faith, roeddwn eisiau creu rhywbeth arbennig i ddal y ddelwedd eiconig na ohoni yn ei chot felen ym meddyliau pobl.

"Yr oll wnes i ddefnyddio i'r portread, oedd un cot felen sy'n union fel yr un mae Faith yn ei gwisgo yn y gyfres.

"Rwyf wedi dangos llun i Eve, ac mae hi wrth ei bodd. Gobeithio bydd cyfle iddi hi gael tynnu ei llun gyda'r darn ar ôl y cyfnod clo."

Yn dryw i'w arddull arferol, mae Nathan wedi cofnodi'r creu gyda fideo time-lapse, ac mae hwn i'w weld ar gyfrifon cymdeithasol S4C.

Am gyfle i ennill y portread gwreiddiol a gwych yma o Eve Myles fel Faith Howells sy'n mesur un medr sgwar, ewch draw i'n tudalen Un Bore Mercher.

Ers cyhoeddi'r gystadleuaeth ar ôl i'r bennod gyntaf ddarlledu nos Sul, mae'r ceisiadau wedi llifo mewn.

Ond mae'r gystadleuaeth ar agor nes 22:00, ar nos Sul 15 Tachwedd felly mae digon o amser i gyflwyno cais.

Mae'r drydydd cyfres o Un Bore Mercher ymlaen ar S4C pob nos Sul am 9.00 ac mae gwylwyr eisoes wedi cymryd at y cyfryngau cymdeithasol yn eu cannoedd i ganmol y bennod cyntaf.

Nid oedd modd llwytho'r cyfryngau, naill ai oherwydd bod y gweinydd neu'r rhwydwaith wedi methu neu oherwydd nad yw'r fformat yn cael ei gefnogi.