S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dilynwch ranbarthau Cymru yng Nghwpan Her Ewrop ar S4C​

13 Tachwedd 2020

Gyda Gleision Caerdydd a'r Gweilch yn cystadlu yng Nghwpan Her Ewrop eleni, bydd modd dilyn y rhanbarthau gyda gemau byw ar S4C.

Gyda'r gystadleuaeth yn dilyn strwythur gwahanol eleni, fe fydd Gleision Caerdydd a'r Gweilch ymysg 14 clwb fydd yn cystadlu mewn un grŵp rhagbrofol.

Bydd S4C yn darlledu gemau'r ddau ranbarth yn fyw yn ystod pob wythnos o'r rowndiau rhagbrofol, gyda sylwebaeth Saesneg ar gael ar y gwasanaeth botwm coch.

Mae'r gystadleuaeth yn cychwyn ar nos Wener 11 Rhagfyr wrth i'r Gleision ymweld â Newcastle Falcons, cyn y gêm rhwng Gweilch a Castres yn y Stadiwm Liberty y diwrnod canlynol.

Mi fydd y ddau dîm yn anelu i orffen ymysg yr wyth tîm gorau o'r rowndiau rhagbrofol.

Bydd yr wyth tîm yna yn ymuno gydag wyth tîm o Gwpan y Pencampwyr Heineken i gystadlu yn y rownd o 16, rownd yr wyth olaf, a'r rownd gyn-derfynol, cyn y rownd derfynol yn Marseille ar 21 Mai 2021.

Gemau Cwpan Her EPCR byw ar S4C

Rownd 1

Nos Wener 11 Rhagfyr – Newcastle Falcons v Gleision Caerdydd - 8.00pm

Nos Sadwrn 12 Rhagfyr – Gweilch v Castres - 8.00pm

Rownd 2

Nos Sadwrn 19 Rhagfyr – Caerwrangon v Gweilch – 8.00pm

Nos Sul 20 Rhagfyr – Gleision Caerdydd v Stade Francais – 5.30pm

Rownd 3

Nos Wener 15 Ionawr – Gweilch v Caerwrangon – 8.00pm

Nos Sadwrn 16 Ionawr – Stade Francais v Gleision Caerdydd – 8.00pm

Rownd 4

I'w Gadarnhau

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?