S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfle i ennill teledu wrth rannu barn am S4C

11 Ionawr 2021

Fel rhan o strategaeth newydd S4C i roi y gwylwyr wrth galon eu gwasanaethau, mae S4C wedi lansio holiadur newydd i gasglu barn y cyhoedd am y sianel.

Bydd cyfle i ennill teledu clyfar 50" HD a Firestick Amazon trwy lenwi holiadur byr deuddeg cwestiwn.

Bydd angen llenwi'r holiadur cyn 31 Ionawr drwy ddilyn y ddolen yma: www.s4c.cymru/eichbarn neu gysylltu gyda Gwifren@s4c.cymru neu ffonio 0370 6004141.

Yn ogystal â'r holiadur, mae S4C wedi comisiynu Strategic Research and Insight i gasglu barn y cyhoedd gan holi amrywiaeth o wylwyr, a rhai sydd ddim yn gwylio S4C ynghylch eu barn am y sianel.

Beth mae nhw'n hoffi, beth dydyn nhw ddim? Beth arall ddylai S4C fod yn ei wneud, beth na ddylai'r sianel fod yn ei wneud?

Bydd y gwaith casglu barn yn digwydd ar ffurf amrywiaeth o grwpiau trafod yn rhithiol ar draws Zoom, felly bydd modd lleisio barn heb adael y tŷ. Mae mwy o wybodaeth yma: https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=160815400243

Bydd S4C yn defnyddio'r wybodaeth ar gyfer cyflwyno tystiolaeth i Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth Prydain fel rhan o drafodaeth dros setliad ariannol S4C o Ebrill 2022 ymlaen.

Yn ychwanegol bydd y sianel yn defnyddio'r wybodaeth i ddatblygu gwasanaethau a chomisiynau S4C dros y 5 mlynedd nesaf.

Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Er mwyn dod i adnabod ein cynulleidfa a deall eu patrymau gwylio yn well, mae'n rhaid i ni sicrhau fod siarad gyda'n gwylwyr a gwrando ar eu barn yn un o'n prif flaenoriaethau.

"Mae gen i ddiddordeb gwirioneddol mewn dod i ddeall pam na fyddai rhywun eisiau gwylio S4C a pha fath o gynnwys sydd angen i ni greu er mwyn denu cynulleidfaoedd newydd.

"Bydd y gwaith pwysig hwn yn llywio ein strategaeth i'r dyfodol ac yn ein hysbrydoli i gynllunio ein rhaglenni er mwyn targedu a denu gwylwyr newydd."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?