S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dathlu Dydd Miwsig Cymru ar S4C

2 Chwefror 2021

Bydd digon o ddewis ac amrywiaeth ar gael ar draws holl blatfformau S4C, beth bynnag yw eich chwaeth gerddorol, wrth i S4C ddathlu Dydd Miwsig Cymru ar y 5ed o Chwefror.

Ar y sgrîn, mi fydd rhaglen arbennig o gigs y Stafell Fyw. Rhaglen uchafbwyntiau o bob gig y Stafell Fyw, sef cyfres o bedair gig byw mewn lleoliadau ar draws Cymru, gyda Ffion Emyr yn cyflwyno fydd hon. Bydd tair trac o bob gig gan gynnwys y bandiau Gwilym, Alffa, Adwaith, Pys Melyn, Gwilym Bowen Rhys, Calan, I Fight Lions a Candelas a chipolwg tu ôl i'r llen.

Ar y 4ydd o Chwefror bydd pennod newydd o Curadur yn cael ei ddarlledu ar y sgrîn. Y tro hwn, Steffan Dafydd o Gaerdydd fydd yn curadu ac yn cynnwys cerddoriaeth gan ei fand Breichiau Hir yn ogystal â Chroma a Patryma. Fydd y bennod ar gael ar S4C Clic yn fuan ar ôl darlledu.

Ac mi fydd hyd yn oed mwy o ddewis o raglenni cerddoriaeth ar S4C Clic. Bydd tudalen Cerddoriaeth Clic yn cynnwys nifer o raglenni â thrawstoriad eang o gerddoriaeth – rhai rhaglenni sydd wedi bod ar S4C yn ddiweddar a rhai fydd yn ymddangos yn arbennig ar gyfer Dydd Miwsig Cymru. Mae hyn yn cynnwys holl benodau o gyfres ddiweddaraf Lŵp Curadur, Heather Jones, Jiwcbocs y Stiwdio Gefn, Plygain Go Wahanol a Cyrn Ar y Mississippi. Yn sicr, rhywbeth i bawb dim ots beth yw eich hoff steil cerddorol!

A bydd sawl eitem arall ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol trwy gydol y diwrnod. Bydd Elis Derby, Marged Gwenllïan, Gethin Griffiths a Carwyn Williams yn cael cwmni gwestai arbennig, sef Malan, y gantores o Gaernarfon, i wneud fersiwn newydd rhithiol o gân enwog Edward H Dafis, Smo Fi Ishe Mynd. Mae'r pedwar wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd ar ganeuon rhithiol drwy gydol y cyfnod clo, a bydd y fersiwn yma o'r gân i'w gweld ar blatfform Lŵp.

Draw ar Hansh, bydd fideo byr yn adrodd hanes y Sîn Roc Gymraeg o'r cychwyn cyntaf hyd at 2021 trwy ddefnyddio cartŵns anhygoel. A bydd fideo dychanol a llawn hiwmor am yr SRG o'r enw 'Pob Cân Cymraeg Erioed' fel rhan o gyfres comedi "POP!" hefyd yn siŵr o wneud i chi wenu. Ac mi fydd Hansh Dim Sbin yn rhyddhau darnau yn trafod effaith Covid-19 ar y diwydiant cerddoriaeth.

Yn ogystal â hyn, bydd dau fyfyriwr yn mynd yn erbyn ei gilydd mewn cwis arbennig am gerddoriaeth Cymraeg a bydd Gareth yr Orangutan yn dathlu'r diwrnod mewn ffordd go arbennig.

A pheidiwch anghofio ein rhestr chwarae Dydd Miwsig Cymru ar Spotify i fwynhau trwy gydol y flwyddyn!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?