S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwyliwch Abertawe v Met Caerdydd yn yr Adran Premier Genero ar S4C

8 Awst 2022

Bydd y gêm bêl-droed rhwng Abertawe a Met Caerdydd ar benwythnos agoriadol y tymor Adran Premier Genero i'w gweld yn fyw ar S4C.

Bydd y gêm, sydd yn cael ei chwarae yn Stadiwm Swansea.com ar ddydd Sul 4 Medi am 5.45yh, yn cael ei ddangos ar S4C, ac ar-lein ar S4C a thudalennau Facebook ac YouTube Sgorio.

Gyda deiliad yr Adran Premier Genero yn mynd benben â'r tîm a orffennodd yn ail y llynedd, dyma fydd un o gemau mwyaf y tymor newydd.

Fe enillodd Abertawe eu trydedd pencampwriaeth o'r fron y tymor diwethaf ar ôl gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Met Caerdydd ar ddiwrnod olaf y tymor.

Fe lwyddodd Abertawe i drechu Met o ddwy gôl i un yn gynharach yn y tymor, cyn i Met ennill ar giciau o'r smotyn y tro nesaf i'r ddau dîm gwrdd, yn rowndiau'r chwarteri Cwpan Adran Genero, ar eu ffordd i ennill y darian.

Gyda fawr ddim gwahaniaeth rhwng y ddau dîm y tymor diwethaf, mi fydd y gêm hon yn ddechreuad cyffrous i'r tymor newydd.

Meddai Alicia Powe, capten Abertawe: "Mae llwyddiant diweddar yr Euros yn dangos fod y galw am bêl-droed menywod yn tyfu. Mae'n blatfform anferth i bêl-droed menywod yng Nghymru i weld gêm yn cael ei chwarae yn y Stadiwm Swansea.com a'i ddarlledu ar deledu. Mae'r garfan gyfan yn edrych ymlaen yn arw i fod yn rhan o'r achlysur pwysig yma ac i gychwyn y tymor."

Meddai Ianthe Mumford, Rheolwr Cyffredinol Adran Premier Genero: "Pa ffordd well sydd yna i ddechrau'r tymor nac i chwarae gêm mewn stadiwm ffantastig yn fyw ar S4C?

"Mae'r cyffro rydyn ni wedi gweld ym myd pêl-droed menywod dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn anhygoel ac mae hwn yn gyfle gwych i bobl weld y dalent cyffrous sydd gennym yn y gêm ddomestig yng Nghymru, wrth i ddau o'r timau gorau wynebu ei gilydd."

Meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Mae'n gyffrous i weld y tymor Adran Premier Genero yn cychwyn gyda gêm rhwng dau o dimau gorau'r gynghrair ac ry'n ni'n edrych ymlaen at ddangos be ddylai fod yn achlysur arbennig iawn, yn fyw ar S4C.

"Ry'n ni'n falch iawn o barhau ein cefnogaeth o'r gynghrair ac i chwarae ein rhan yn natblygiad pêl-droed menywod yng Nghymru."

Sgorio: Abertawe v Met Caerdydd

Dydd Sul 4 Medi, 5.30yh

S4C, S4C Clic ac YouTube a Facebook Sgorio

Sylwebaeth ac is-deitlau Saesneg ar gael

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?