S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Hansh S4C yn ennill gwobr yn y New Voice Awards

7 Ebrill 2023

Mae Tisho Fforc?, un o raglenni Hansh, gwasanaeth ar-lein S4C wedi llwyddo i gipio gwobr yng ngwobrau New Voice Awards 2023 a gynhaliwyd yn Llundain neithiwr (nos Wener 6 Ebrill).

Enillodd Tisho Fforc (Afanti Media) wobr yng nghategori Cyfres Gymdeithasol Orau.

Mae gwobrau'r New Voice Awards yn cael eu trefnu gan The TV Foundation, rhan elusennol Gŵyl Deledu Caeredin, ac mae'n cydnabod a dathlu talentau creadigol newydd a'r cwmnïau sy'n gwneud y mwyaf i'w cefnogi.

Mae Tisho Fforc? yn gyfres ddêtio sy'n cael ei chyflwyno gan Mared Parry, sy'n "rhoi hotties mwyaf Cymru ar blât - yn llythrennol", lle mae dau berson sy'n chwilio am gariad yn mynd ar ddêt dall ac yn chwarae gemau ac yn ateb ambell i gwestiwn lletchwith

Meddai Guto Rhun, Comisiynydd Gynulleidfa Ifanc S4C:

"Rydym yn falch iawn bod Tisho Fforc? wedi dod i'r brig yng ngwobrau New Voice Awards, a hynny mewn categori mor gystadleuol.

"Mae'r gwobrau New Voice Awards yn dathlu'r gorau o blith talent newydd a chynnwys teledu Prydain - felly'r ffaith bod S4C wedi ennill gwobr – yn dangos ein bod ein cynnwys ni o safon uchel sy'n gallu cystadlu gyda'r gorau yn y byd darlledu. Mae ein cynnwys S4C Hansh wedi'i anelu at gynulleidfa 16 - 24 wrth iddo 'greu trwbl da' yn gwthio ffiniau a herio gan roi llais i bobl ifanc Cymru.

"Llongyfarchiadau mawr i Afanti Media a'r tîm talentog sydd wedi gweithio'n ddiwyd ar y gyfres yma."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?