
17 Gorffennaf 2023
Bydd gêm Wrecsam yn erbyn Chelsea yn Stadiwm Kenan yng Ngogledd Carolina yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C.
Bydd Sgorio S4C yn ffrydio'r gêm yn fyw ar S4C Clic, ac ar sianeli YouTube a Facebook Sgorio gyda'r gic gyntaf am 01:00 yn oriau mân y bore ar nos Iau, 20 Gorffennaf.
Bydd uchafbwyntiau'r gêm i'w gweld ar S4C nos Iau am 21:00.
Mae'r gêm yn rhan o baratoadau Wrecsam cyn y tymor ar gyfer eu hymgyrch yng Nghynghrair Dau, yn dilyn dyrchafiad o'r Gynghrair Genedlaethol y tymor diwethaf.
Yn ystod eu taith i'r Unol Daleithiau bydd Wrecsam hefyd yn wynebu Manchester United, LA Galaxy II a Philadelphia Union II.
Mae gan S4C berthynas agos gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam, gan ddarlledu gemau yn ystod rhediad Wrecsam yng Nghwpan FA Lloegr y tymor diwethaf a'r gyfres ddogfen Wrecsam… Clwb Ni! oedd yn dilyn ffawd y clwb pêl-droed, y cefnogwyr a'r gymuned leol.
Dim ond yn ddiweddar y gwnaeth S4C arwyddo cytundeb masnachol gyda chyd-berchennog Wrecsam Ryan Reynolds a'i sianel newydd Maximum Effort. Mae'r sianel hon yn dangos cynnwys S4C ar 'Welsh Wednesdays' i gynulleidfa ar draws yr UDA.
Dywed sylwebydd y gêm ar S4C, Malcolm Allen, y bydd y gêm hon yn dod â hyd yn oed mwy o sylw i Wrecsam:
"Mae hyn yn grêt i Wrecsam – am gêm iddyn nhw. Nid yn aml y gallwch chi wylio unrhyw glwb o Gymru yn chwarae ar lwyfan mor fawr, a hefyd yn fyw ar S4C.
"Dw i'n edrych ymlaen at weld sut y bydd y chwaraewr newydd Will Boyle yn chwarae – chwaraewr cryf, newydd i Wrecsam.
"Bydd yn ddiddorol gweld pa mor heini yw'r bechgyn – mae ysbryd gwych yn y tîm. Bydd y chwaraewyr eisiau profi pwynt yn erbyn tîm fel Chelsea."
Meddai Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi:
"Mae'n wych gallu darlledu gêm Wrecsam yn erbyn Chelsea ar S4C wrth iddyn nhw baratoi i ddychwelyd i Gynghrair Bêl-droed Lloegr.
"Mae S4C yn falch o chwarae rhan yn y bwrlwm o amgylch y clwb a'r dref mewn cyfnod sy'n profi'n gyfnod cyffrous i Glwb Pêl-droed Wrecsam."
Cyhoeddodd S4C yn ddiweddar y bydd yn darlledu holl gemau pêl-droed rhyngwladol dynion Cymru tan 2028, gan sicrhau bod y gemau ar gael i wylwyr am ddim.
Bydd gwylwyr yn gallu gwylio uchafbwyntiau gemau rhyngwladol merched Cymru ar S4C yn ogystal â darllediadau byw o ymgyrch ragbrofol Cymru ar gyfer Pencampwriaethau UEFA dan 21 ar gyfer Ewro 2025 yn Slofacia.
S4C – Cartref pêl-droed Cymru.