Y Wasg

Y Wasg

Cwestiynau o’r newydd am lofruddiaeth ymgyrchydd 78 oed yn 1984 mewn rhaglen ddogfen ar S4C

27 Hydref 2025

Ers blynyddoedd lawer, mae amheuon ynghylch llofruddiaeth yr ymgyrchydd gwrth-niwclear Hilda Murrell, gyda rhai yn amau bod y gwasanaethau cudd yn gysylltiedig â’i marwolaeth.
Yn Pwy laddodd Hilda Murrell?, rhaglen ddogfen fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C mewn dwy ran ar 28 ar 29 Hydref am 21.00, mae teulu Hilda yn datgelu gwybodaeth newydd am ei llofruddiaeth. 

Roedd y cyn-Aelod Seneddol Tam Dalyell yn honni bod y gwasanaethau cudd ynghlwm â marwolaeth Hilda ac mae ei theulu nawr yn dweud mai cyn-swyddog MI6 enwog a phrofiadol oedd un o ffynhonnellau Mr Dalyell.

A fedrai’r datguddiad diweddaraf daflu goleuni newydd ar achos a fu’n destun dirgelwch am flynyddoedd?

Cafodd corff Hilda Murrell ei ddarganfod mewn coedwig ar gyrion Amwythig ar 24 Mawrth 1984, tridiau ar ôl ei diflaniad.

Yn dilyn adolygiad o’r achos bron ungain mlynedd ar ôl y llofruddiaeth, a gyda help datblygiadau technoleg DNA, cafodd Andrew George ei ddedfrydu yn 2005 i o leiaf 13 mlynedd dan glo ac mae’n parhau i fod yn y carchar hyd heddiw.

Roedd George yn 16 oed ar adeg llofruddiaeth Hilda ac mae rhai, gan gynnwys teulu Hilda, wedi codi cwestiynau am ei euogrwydd.

Mae’r rhaglen yn archwilio i sawl theori sy’n gysylltiedig â llofruddiaeth Hilda, gan gynnwys ei bod hi wedi dod ar draws manylion cyfrinachol am suddo’r Belgrano yn ystod Rhyfel y Falklands.

Roedd ei nai, Commander Robert Green, yn gweithio yn y Llynges, gyda rhai yn honni iddo fod yn allweddol i suddo’r Belgrano, ond mae Mr Green yn mynnu nad oedd yn rhan o’r penderfyniad hwnnw.

Yn 1983, blwyddyn cyn llofruddiaeth Hilda, sefydlodd y Weinyddiaeth Amddiffyn uned arbenigol o swyddogion MI5, y Defence Secretariat 19, i darfu ar ymgyrchoedd di-arfogi niwclear a mudiadau oedd yn gwrthwynebu ehangu’r diwydiant ynni niwclear.

Mae’r rhaglen hefyd yn archwilio i’r posibilrwydd bod y gwasanaethau cudd yn archwilio i Hilda fel ymgyrchydd gwrth-niwclear blaenllaw, gan ei bod hi ar y pryd yn y broses o ysgrifennu papur ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus i ddatblygiad yr orsaf ynnu niwclear Sizewell B.

Yn y rhaglen, mae nai Hilda, Robert Green, yn cofio’r diwrnod y clywodd am farwolaeth ei fodryb:

“Ces i alwad ffôn fod Hilda ar goll ac yna daeth yr heddlu i gyswllt â fi nes ymlaen yr un diwrnod a dweud eu bod wedi darganfod ei char, a’u bod wedi darganfod corff, ac aethom ni i farwdy y prynhawn hwnnw lle adnabyddais i gorff Hilda.  Doedd gen i ddim syniad pa mor anodd oedd hynny ac fe fydd e am byth.”

Gan amau nad Andrew George oedd yn gyfrifol am lofruddiaeth Hilda, dechreuodd Mr Green, a’i wraig Dr Kate Dewes, ymchwilio i’r achos eu hunain ar ôl i’r achos llys ddod i ben.

Dywedodd Dr Dewes:

“Doedd dim datganiadau gan dystion oedd yn dweud bod bechgyn ifanc yn cerdded o gwmpas y strydoedd, curo ar ddrysau a cheisio’u bwrglera, a fyddai’n cydfynd â disgrifiad Andrew George.”

Ac yn ôl David Williams, un o’r newyddiadurwyr fu’n dilyn y stori ar y pryd, mae yna gwestiynau yn parhau am yr hyn ddigwyddodd i Hilda Murrell.

“Dwi’n teimlo, ar ôl yr holl amser yma, dwi dal ddim yn glir yn fy meddwl be’ ‘di’r gwir.  Dwi’n meddwl bod un person yn gwbod be’ ‘di’r gwir, a’r person yna ‘di Andrew George.  Mae o’n gwbod.  Mae o’n gwbod pwy oedd yn y tŷ felly, yn dydi?  Ac os oedd ‘na rywun yn y tŷ heblaw fo, dyna’r bobl sydd yn gwbod y gwir.”

Bydd y rhaglen, sydd yn rhan o arlwy Trosedd S4C, hefyd ar gael i’w ffrydio ar S4C Clic a BBC iPlayer, gydag is-deitlau Cymraeg a Saesneg.