Y Wasg

Y Wasg

Ffilm Western Cymreig cyntaf S4C a Sinema Cymru

26 Mai 2026

Mae ffilm Cymraeg Western cyntaf S4C, Lluest, newydd orffen ffilmio ar draws Cymru ac yn Stiwdios Great Point yng Nghaerdydd. Dyma ffilm cyntaf Sinema Cymru, cynllun newydd sydd wedi ei gefnogi gan S4C a Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, i hyrwyddo ffilmiau Cymraeg ar lwyfan byd-eang. Mae’r ffilm yn cael ei gynhyrchu gan Severn Screen.

Mae’r ffilm wedi ei greu gan Ed Talfan sydd hefyd yn gynhyrchydd gweithredol arni ynghyd â Todd Brown. Gareth Bryn sydd yn cyfarwyddo a Hannah Thomas yn cynhyrchu. Mae’r cast yn cynnwys Aimee-Ffion Edwards (Slow Horses, Believe Me, Peaky Blinders), Rhodri Meilir (Craith, In My Skin) ac Yann Gael (Vanilla, Néro the Assassin).

Ffilm gyfnod yw Lluest, wedi’i lleoli yng nghefn gwlad Cymru yn ystod gaeaf eithafol 1780. Mae Maggie Jenkins (Aimee-Ffion Edwards) yn gofalu am dyddyn y teulu ynghyd â’i thad rhag lladron ac eithafwyr crefyddol. Pan ddaw ei brawd alltud adref yn annisgwyl - a phawb yn meddwl ei fod wedi hen farw - mae hen glwyfau yn agor a thensiynau’n tanio.

Wrth i’r byd o gwmpas Maggie droi’n fwy creulon bob dydd, mae’n rhaid i Maggie hawlio ei chyfiawnder ei hun, a hynny mewn byd caled ble defnyddir crefydd fel arf, gyda dynion yn fygythiol a pheryglus, a ble gall trugaredd fod yn angheuol.

Bu MetFilm Sales yn cyflwyno’r ffilm i brynwyr yn Marché du Film yn Cannes fis yma (Mai) gan rannu lluniau yn ogystal â’r sgript yno.

Meddai Gwenllian Gravelle, Cynhyrchydd Gweithredol Lluest, Pennaeth Ffilm & Drama S4C, ac  un o sylfaenwyr Sinema Cymru:

“Rydym yn falch o gefnogi Severn Screen i ddod â’r ffilm nodwedd gyfnod, feiddgar hon yn fyw trwy ein cynllun Sinema Cymru mewn cydweithrediad â’n partneriaid creadigol. Mae’r ffilm hon yn nodi moment arwyddocaol i S4C, wrth i ni ddychwelyd at gynnwys o gyfnod hanesyddol gydag ongl newydd, gyfoes, gan adrodd stori sy’n adlewyrchu dyfnder, prydferthwch ac uchelgais sinematig Cymru. Wedi ei gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant Cymru ac eto yn taro tant gyda chynulleidfaoedd byd-eang, mae’r ffilm hon wedi ei chreu ar gyfer y llwyfan rhyngwladol.”

Meddai Hannah Thomas, cynhyrchydd gyda Severn Screen:

“Rydym yn hynod falch o gynhyrchu’r ffilm nodwedd gyntaf i ddod allan o gynllun arloesol Sinema Cymru. Mae ail-gydweithio gyda Gareth Bryn ar ein hail ffilm nodwedd yn gwneud y prosiect yn fwy arbennig fyth, yn ogystal â’r cyfle i ddod â stori feiddgar Gymraeg i’r sgrin.

“Mae Severn Screen yn angerddol dros greu cynnwys Cymreig uchelgeisiol sydd â chyrhaeddiad rhyngwladol, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld cynulleidfaoedd yn darganfod LLUEST mewn sinemâu.”

Meddai Gareth Bryn, Cyfarwyddwr y ffilm:

“Mae Lluest yn stori am oroesi - a hynny mewn lle ac amser ble mae’r ffin rhwng cyfiawnder a dial yn denau iawn. Yr hyn oedd yn apelio ata i oedd y cyfle i archwilio tirwedd a hanes Cymru mewn ffordd sy’n teimlo’n chwedlonol a hefyd yn greulon o wir, a chanoli hynny oll trwy gymeriad fel Maggie, â’i gwytnwch a’i chymhlethdod moesol sy’n gyrru’r ffilm.

“Rydym yn creu rhywbeth sy’n llawn ysbryd ffilmiau cowbois, ac eto sydd wedi ei wreiddio’n ddwfn yn hunaniaeth, iaith a diwylliant Cymru. Mae’n fyd o brydferthwch amrwd, ble mae ffydd, trais a theulu yn gwrthdaro, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ddod â hyn i gynulleidfa ar lefel ryngwladol.” 

Fel rhan o gynllun newydd Sinema Cymru, mae Lluest wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth flaenorol Cymru drwy Cymru Greadigol. Meddai Adam Price, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni:

"Rwy'n falch iawn o weld bod Western cyntaf S4C, Lluest, bellach wedi gorffen ffilmio ac yn gam yn nes at ryddhau. Sefydlwyd Cymru Greadigol er mwyn gallu cefnogi yr union fath hyn o ffilmiau - rhai beiddgar ac uchelgeisiol, ac mae'n wych gweld y buddsoddiad hwnnw'n dod yn fyw ar y sgrin.

"Mae Sinema Cymru, sy'n bartneriaeth rhwng S4C, Cymru Greadigol a Ffilm Cymru, yn gam gwirioneddol ymlaen i sinema Gymraeg ar lwyfan y byd, ac edrychwn ymlaen at weld Lluest yn diddanu cynulleidfaoedd yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol."

Meddai Zak Brilliant o MetFilm Sales:

“Mae Lluest yn stori drydanol a chyfareddol sydd ag ongl ddiwylliannol unigryw, sy’n dod gan dîm arobryn o wneuthurwyr ffilm. Rydym wrth ein boddau yn cael dod â’r prosiect yma i’n partneriaid byd-eang ac yn hyderus y bydd y ffilm yn dal dychymyg pobl ar draws rhanbarthau.”