
17 Mehefin 2026
Bydd S4C yn darlledu pob gêm Cymru yn y gystadleuaeth rygbi newydd, Pencampwriaeth y Cenhedloedd, yn fyw am y bedair mlynedd nesaf.
Gan ddechrau’r haf hwn, mae Pencampwriaeth y Cenhedloedd yn gyfres sy’n cael ei gynnal ddwy waith y flwyddyn ac yn gosod timau hemisffer y gogledd yn erbyn timau’r de. Ym mlwyddyn gyntaf y gystadleuaeth, bydd Cymru’n chwarae saith gêm – tair ym mis Gorffennaf a phedair ym mis Tachwedd. Bydd pob canlyniad yn cyfrannu at dabl y bencampwriaeth, gyda’r gêm olaf yn pennu safle terfynol Cymru.
Mae'r darllediadau'n cychwyn ar ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf, pan fydd Cymru yn wynebu Fiji yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Mae Fiji yn chwarae eu gemau cartref yn hemisffer y gogledd.
Bydd Cymru yn chwarae’r ddwy gêm ganlynol yn nhymor yr haf, gan deithio i’r Ariannin ar 11 Gorffennaf, cyn wynebu De Affrica ar 18 Gorffennaf.
Ym mlwyddyn gyntaf y gystadleuaeth, bydd S4C yn dangos saith gem – tair ym mis Gorffennaf a phedair yn ystod tymor yr hydref ym mis Tachwedd.
Bydd modd gwylio’n fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.
Sarra Elgan fydd yn cyflwyno’r darllediad, gyda Ken Owens a Sioned Harries yn ymuno â hi. Gareth Charles a Gwyn Jones fydd yn sylwebu.
Dywedodd Sarra Elgan:
“Mae’n fraint i fod yn rhan o ddod â chystadleuaeth newydd mor arwyddocaol a Bencampwriaeth y Cenhedloedd i gynulleidfaoedd S4C. Mae’n gyfnod cyffrous i rygbi rhyngwladol, ac mae’r fformat newydd yn ychwanegu dimensiwn ffres at y gêm.”
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at adrodd y straeon, dal yr awyrgylch a rhannu’r cyffro ar y sgrin ochr yn ochr â thîm gwych, a dod â’r cyfan i gynulleidfaoedd sy’n siarad Cymraeg ledled Cymru.”
Dywedodd Prif Swyddog Masnachol Undeb Rygbi Cymru, Tomos Grace:
“Mae ymrwymiad parhaus S4C i rygbi Cymru drwy ddarlledu Pencampwriaeth y Cenhedloedd yn hynod bwysig i’r gêm yng Nghymru.
“Mae hwn yn dwrnamaint rhyngwladol newydd mawr sy’n dod â’r gorau o dimau hemisffer y Gogledd a’r De ynghyd. Rydym yn ddiolchgar i S4C am gyfrannu at ei wneud ar gael i gynifer o gefnogwyr Cymraeg â phosib.
“Mae rygbi Cymru yn berchen i bawb yng Nghymru. Mae amlygrwydd S4C yn chwarae rhan hanfodol wrth ddod â chynulleidfaoedd a chefnogwyr Cymraeg ynghyd ac rydym yn diolch i S4C am eu cefnogaeth barhaus ar bob lefel o’r gêm.”
Ychwanegodd Tom Harrison, Prif Weithredwr Rygbi’r Chwe Gwlad:
“Wedi’i chreu gan y gêm, ar gyfer y gêm, ei chwaraewyr a’r cefnogwyr, mae Pencampwriaeth y Cenhedloedd yn fwy na dim ond twrnamaint, mae’n gatalydd twf ar gyfer camp sy’n barod i fynd yn wirioneddol fyd-eang.
“Bydd Pencampwriaeth y Cenhedloedd yn sefyll ochr yn ochr â’r twrnameintiau a’r digwyddiadau gorau y byd chwaraeon, trwy rannu’r un elfennau allweddol sy’n eu gwneud yn wahanol: perygl, yr annisgwyl, ac athletwyr elitaidd yn cystadlu ar y lefelau uchaf gyda digon o ddrama. Mae pob gêm ym mis Gorffennaf a mis Tachwedd yn rhai na ddylid eu colli, ac mae’r mynediad cynhwysfawr sydd gan gefnogwyr trwy bartneriaeth darlledu fyd-eang yn golygu nad oes angen i gefnogwyr golli eiliad o’r cyffro.”
Sunset & Vine fydd yn cynhyrchu’r darllediad o Bencampwriaeth y Cenhedloedd ar S4C.
Nodiadau i Olygyddion
Darllediadau S4C o’r gemau
Fiji v Cymru – dydd Sadwrn 4 Gorffennaf, 13:30
Yr Ariannin v Cymru – dydd Sadwrn 11 Gorffennaf, 19:30
De Affrica v Cymru – dydd Sadwrn 18 Gorffennaf, 16:00
Pencampwriaeth y Cenhedloedd
Mae Pencampwriaeth y Cenhedloedd yn dwrnamaint rygbi rhyngwladol sy’n cael ei gynnal ddwy waith y flwyddyn sydd wedi’i greu trwy fenter nodedig ar y cyd rhwng Rygbi'r Chwe Gwlad a SAZAAR, ac aelodau’r deg Undeb a Ffederasiwn craidd: Lloegr, Ffrainc, Iwerddon, yr Eidal, yr Alban, Cymru ac Awstralia, yr Ariannin, Seland Newydd, a De Affrica.
Mae'r twrnamaint yn digwydd bob dwy flynedd, y tu allan i Gwpan Rygbi'r Byd a Theithiau Llewod Prydain ac Iwerddon, ac yn cael ei gynnal yn ffenestri rygbi rhyngwladol Gorffennaf a Tachwedd yn y calendr, gan eu trawsnewid yn un fformat twrnamaint cydlynol a chystadleuol a fydd yn cyrraedd uchafbwynt ar benwythnos Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth y Cenhedloedd, lle bydd tîm buddugol a grŵp Hemisffer buddugol yn cael eu penderfynu.
Ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd, bydd Undebau a Ffederasiynau Rygbi'r Chwe Gwlad yn cynrychioli Hemisffer y Gogledd, a bydd Undebau SANZAAR yn ffurfio grŵp sy'n cynrychioli Hemisffer y De, ac yn ymuno â thimau gwadd Japan a Fiji, sy'n cwblhau'r rhestr o dimau.
Ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd, mae timau'n cystadlu i ennill y twrnamaint, ond bydd elfen gystadleuol unigryw yn cael ei hychwanegu at Benwythnos y Rowndiau Terfynol gan wobr ychwanegol, sef Coron Hemisffer Pencampwriaeth y Cenhedloedd, sy’n cael ei ddyfarnu i'r grŵp o dimau sy'n ennill y nifer mwyaf o bwyntiau yn eu grŵp Hemisffer ym Mhenwythnos y Rowndiau Terfynol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Pencampwriaeth y Cenhedloedd.