
8 Gorffennaf 2026
Mae oriau ffrydio S4C wedi cyrraedd eu lefel uchaf erioed gyda thwf sylweddol ar draws y cyfrifon cymdeithasol, yn ôl adroddiad blynyddol y darlledwr.
Daw’r diweddariad ar ôl i S4C gyhoeddi ei strategaeth newydd ym mis Medi – Mwy Na Sianel Deledu – gyda thrawsnewid i fod yn ddigidol-yn-gyntaf yn un o’r prif bileri.
Mae gwylio misol cynnwys S4C ar YouTube, S4C Clic a BBC iPlayer wedi tyfu 22% blwyddyn ar flwyddyn.
Mae argraffiadau misol cynnwys cyfryngau cymdeithasol S4C ar draws Facebook, Instagram a TikTok wedi cynyddu 83% i 35.6m. Yn y cyfamser, mae’r ymwneud misol ar draws y tri llwyfan wedi profi cynnydd o 47% i 1.39m.
Mae S4C hefyd wedi ehangu gwylio digidol ymhlith dysgwyr Cymraeg, wrth i gyrhaeddiad cyfrifon cymdeithasol S4C Dysgu Cymraeg dyfu mwy na 50% yn ystod y flwyddyn, gyda nifer dilynwyr y cyfrifon yn mwy na dyblu yn ystod yr un cyfnod.
Mae nifer defnyddwyr wythnosol ap Newyddion S4C hefyd wedi cynyddu.
Ymhlith uchafbwyntiau cynnwys S4C yn 2025-26 oedd Y Cyfweliad, cyfres sy’n seiliedig ar y fformat rhyngwladol Les Rencontres du Papotin lle mae criw o unigolion niwrowahanol yn holi wynebau Cymreig cyfarwydd. Derbyniodd y gyfres glod cyson ac ymhlith y cyfresi â’r sgôr gwerthfawrogiad uchaf yn 2025-26. Mae’r gyfres bellach wedi ei chomisiynu am ddwy gyfres arall.
Profodd Y Crwydryn i fod yn un o raglenni mwyaf poblogaidd y flwyddyn, gyda ffigyrau dal-i-fyny arbennig o gryf ar gyfer y rhaglen ddogfen fu’n dilyn y canwr gwlad Wil Tân.
Roedd uchafbwyntiau eraill yn cynnwys ail gyfres Y Llais, oedd yn un o’r unig gyfresi oriau-brig ar unrhyw un o’r prif sianeli oedd â dros hanner eu gwylwyr dan 45 oed. Adeiladodd y rhaglen ddetio Amour & Mynydd, fformat gwreiddiol a ddatblygwyd ar gyfer S4C, ar lwyddiant y gyfres flaenorol, gyda chlipiau a chynnwys atodol ar y cyfryngau cymdeithasol yn cyrraedd cynulleidfa ifanc ac eang.
Roedd darllediadau chwaraeon S4C wedi cyfrannu at ehangu'r gwylio digidol, gyda 3 o'r 5 uchaf ar S4C Clic a 7 o 10 uchaf S4C ar BBC iPlayer yn raglenni chwaraeon.
Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Rydym wedi amlinellu cynlluniau uchelgeisiol yn S4C ar gyfer y pum mlynedd nesaf wrth i ni drawsnewid i fod yn ddarlledwr digidol-yn-gyntaf, ac mae’r ffigyrau yn yr adroddiad blynyddol yn dangos ein bod eisoes yn gwneud cynnydd da.
“Mae’r cynnydd mewn oriau ffrydio a’r ymwneud ar draws y platfformau digidol yn tanlinellu pwysigrwydd addasu i arferion gwylio newydd, ac yn dangos rôl S4C wrth wneud y Gymraeg yn berthnasol a hyfyw ar nifer o lwyfannau gwylio.”
Ychwanegodd Delyth Evans, Cadeirydd Bwrdd S4C: “Rydw i wrth fy modd i rannu’r adroddiad blynyddol cyntaf ers fy mhenodiad yn Gadeirydd S4C ac rydw i’n arbennig o falch i weld y cynnydd sylweddol rydym yn ei wneud yn y maes digidol.
“Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae’n ddyletswydd arnom i wasanaethu ein gwylwyr a bod yn bresennol ble maen nhw’n gwylio. Mae twf digidol S4C yn dangos chwant clir am ein cynnwys a bod ein gwylwyr yn dyheu am fwy.
“Rydw i’n ddiolchgar i staff S4C a’r sector cynhyrchu yng Nghymru am gofleidio’r cyfleoedd mae darlledu digidol-yn-gyntaf yn eu cynnig ac am sicrhau bod S4C yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac yn ehangu gwylio gyda’i chynnwys.”