Y Wasg

Y Wasg

Holl gyffro cystadlu Y Sioe Frenhinol ar S4C – yr unig le i wylio’n fyw

16 Gorffennaf 2026

Ymunwch ag S4C yr haf hwn i wylio holl gystadlu a bwrlwm un o brif ddigwyddiadau calendr amaethyddol Prydain - Sioe Frenhinol Cymru.  

Bydd y darlledu’n dechrau ar nos Sul 19 Gorffennaf - noswyl y Sioe, gyda rhaglen Rhagflas y Sioe am 21:00 yn ymuno â moliant y maes ac yn rhoi blas o’r hyn sydd i ddod gydol yr wythnos.  

Rhwng dydd Llun 20 a dydd Iau 23 Gorffennaf, mae modd gwylio’r holl gystadlu a bwrlwm ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer yn fyw gyda sylwebaeth ac is-deitlau Saesneg ar gael.  

Bydd pedair ffrwd fyw ar blatfformau S4C yn caniatau’r gwylwyr i ddilyn holl gystadlaethau’r Prif Gylch, Cylch y Gogledd, Cylch y De a’r Cylch Canol o 08.00 ymlaen. Am y tro cyntaf eleni, bydd ffrwd fyw o brif bencampwriaethau’r gwartheg bîff brynhawn Llun a Mawrth, gyda’r cystadlu o’r sied gneifio brynhawn Llun i Mercher.  Mae’r cyfan i’w weld ar sianel YouTube @YSioeS4C, tudalen Facebook @S4Csioe, BBC iPlayer ac S4C Clic, gyda sylwebaeth Saesneg. Bydd modd mynd yn ôl ar ffrwd fyw S4C Clic a BBCiPlayer i ail-wylio’r cystadlu, neu wylio’r cyfan eto am hyd at dri diwrnod ar S4C Clic (wrth wylio ar gyfrifiadur neu liniadur), felly bydd modd dal pob eiliad o’r cyffro.  

Fe fydd rhaglen Heno yn darlledu’n fyw o faes y Sioe bob nos am 19.00, ac ar nos Fercher 22 Gorffennaf bydd Pawb a’i Farn, y rhaglen sy’n trafod materion cyfoes hefyd yn darlledu o’r Sioe am 20.00. 

Bydd criw Newyddion S4C yn dod â’r newyddion diweddaraf o’r Sioe drwy gydol y digwyddiad ar eu gwefan, ap a chyfrifon cymdeithasol.  

Yn ogystal â'r darlledu byw, bydd S4C yn dathlu bywyd cefn gwlad ar draws ei lwyfannau digidol. Bydd gwefannau cymdeithasol Hansh yn rhannu cynnwys o faes y Sioe gyda Colnet a Sorian, Huw Jones a Mari Meddins, yn ogystal â phenodau o Carufanio. Ar yr un pryd, bydd cyfresi poblogaidd o archif S4C - gan gynnwys Tir, Darn o Dir a Martha, Jac a Sianco - ar gael i'w gwylio ar BBC iPlayer ac S4C Clic

Os nad yw hynny’n ddigon, bydd cyfle i gael trosolwg o ddiddanwch a digwyddiadau’r diwrnod bob nos ar raglen uchafbwyntiau S4C am 21:00.  

Y tîm o gyflwynwyr fydd yn crwydro rhwng y cystadlu, y gerddoriaetha’r gweithareddau lu fydd Nia Roberts ac Alun Elidyr, Ifan Jones Evans, Meinir Howells, Aeron Pughe, Hannah Parr, Heledd Cynwal a Gwion Elis. Ifan Jones Evans a Mari Lovgreen wedyn fydd yn edrych yn ôl ar uchafbwyntiau’r diwrnod gyda’r hwyr. 

Bydd Nia Roberts yn cyflwyno o’r Sioe am yr 20fed blynedd eleni:  

"Fedrwch chi ddim peidio sylwi ar y datblygu sy’n digwydd o flwyddyn i flwyddyn ar faes y Sioe. Mae’r seiliau traddodiadol yn solat ond mae’n braf gweld y digwyddiad yn symud yn ei blaen. Mae’r pentref bwyd a diod - Gwledd - wedi hen ennill ei blwyf erbyn hyn, fel y Pentref Garddwriaeth a’r Eisteddflodau! A llynedd mi gawsom ni’r Pentref Ceffylau Trymion. Be’ fydd yn newydd eleni? Mae rhyw aderyn bach yn dweud wrtha i fod Neuadd De Morgannwg wedi cael facelift a dwi’n edrych ‘mlaen at weld sut mae’r hen ledi yn edrych yn 2026! 

 “Mae ‘na rhywbeth i bawb yn y Sioe Fawr - y Cylchoedd Cystadlu, Gweithgareddau’r Ffermwyr Ifanc, Cynnyrch y Neuadd Fwyd, Cneifio gwallgo’ heb anghofio adloniant y Prif Gylch. Cyfle perffaith inni werthfawrogi bywyd gwledig Cymru. 

 "‘Da ni’n gwybod, fel tîm, faint mae’r sioe yn ei olygu i bobol yng Nghymru a thu hwnt a’n braint ni ydi cael rhannu stori Sioe 2026 ar S4C.” 

 Ar y penwythnos yn dilyn y Sioe Fawr, bydd S4C yn darlledu y cystadlaethau cneifio defaid o Gorwen. Bydd Cneifio Corwen i’w gweld ar sianel YouTube S4C yn fyw ar ddydd Sadwrn, 25ain Gorffennaf. Alun Elidyn fydd yn sylwebu, ac Aeron Pughe a Wil Hendreseifion Evans fydd yn cyflwyno gan ddod â’r holl gyffro, y dyfalu, y cystadlu a’r sgyrsiau i gyd yn fyw dim ond ar sianel YouTube S4C (sylwebaeth Saesneg ar gael). 

I goroni’r wythnos lawn, bydd rhaglen arbennig o uchafbwyntiau cystadlu a hwyl y Sioe i’w weld ar nos Sul 26 Gorffennaf am 19.30. 

Mi fydd hefyd pennod arbennig o Garddio a Mwy o’r Sioe yn darlledu 10 Awst, lle bydd y tri chyflwynydd yn edrych ar erddi gwahanol a’r cynnyrch ar y stondinau arddangos, ac yn dilyn paratoadau Adam cyn y digwyddiad wrth iddo edrych ymlaen at ofalu am Y Pentref Garddwriaeth. 

Ar gyfer holl fanylion darlledu Sioe Frenhinol Cymru ar S4C, ewch draw i S4C.cymru/sioe