
20 Gorffennaf 2026
Bydd cynhyrchwyr bwyd o ogledd Cymru yn cael eu dathlu mewn cyfres goginio newydd gyda’r cogydd Bryn Williams ar S4C ym mis Hydref.
Yn Cegin Clwyd, bydd Bryn yn dychwelyd i’w filltir sgwâr yn Nyffryn Clwyd, gan wahodd y gynulleidfa i’w gegin ac i gwrdd â’r bobl y tu ôl i rai o’r cynnyrch sy’n ymddangos ar ei fwydlenni.
Caiff y gyfres chwe phennod ei ffilmio’n bennaf yng nghegin allanol Bryn yn ei gartref yng Nghlwyd, gyda ffocws ar gynnyrch tymhorol a darparwyr lleol o ogledd Cymru. Bydd modd gwylio ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer, gydag is-deitlau Cymraeg a Saesneg ar gael.
Ym mhob rhaglen, bydd Bryn yn coginio tri rysáit tymhorol. Bydd y brif saig yn cael ei rhannu gyda’r cynhyrchydd lleol sy’n cyflenwi’r prif gynhwysyn. Bydd dau rysáit arall yn ychwanegu i’r pryd, gan greu bwydlen gyflawn o gynnyrch lleol yn ei dymor. Defnyddir ffrwythau a llysiau o ardd Bryn, a bydd ei frawd Gareth - sy’n gofalu am yr ardd a’r stad - yn ymddangos yn rheolaidd drwy’r gyfres.
Ymhlith y cynhyrchwyr bwyd fydd yn y gyfres bydd:
Bydd Bryn yn ymweld â grŵp Bwyd Cymunedol Dinbych yn ystod y gyfres hefyd, ac yn cael ei ysbrydoli gan gynnyrch yr ardd gymunedol i greu saig sy’n cynnwys blodau corbwmpen wedi’u stwffio.
Meddai Bryn: “Un gair bach syml ydi Dyffryn Clwyd i mi - adre, bod nôl adre gyda theulu a ffrindiau.
“O fewn y gyfres newydd mi fydda i’n cael cyfle i ddangos ryseitiau syml, sy’n cael ei hysbrydoli gan y cynnyrch gorau yng Ngogledd Cymru.
“Y peth pwysicaf am ryseitiau’r gyfres ydi fod y bwyd yna i’w rannu. Os ydi teulu a ffrindiau’n dod rownd, dyma’r math o fwyd dwi wrth fy modd yn gweini; dod â plât mawr llawn bwyd i ganol y bwrdd a phawb yn bwyta a mwynhau.”
Mae’r gyfres yn dilyn dychweliad Bryn i Ddyffryn Clwyd ar ôl blynyddoedd yn byw ac yn gweithio yn Llundain. Er iddo werthu ei fwyty Odettes, mae’n parhau i redeg bwyty Porth Eirias ym Mae Colwyn, bwyty yn Theatr Clwyd, a dau fwyty yn y Swistir.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Bryn wedi buddsoddi mewn stad fechan yn Nyffryn Clwyd, lle mae’n tyfu ffrwythau a llysiau ac yn cadw gwenyn a gwartheg duon Cymreig. Mae hefyd yn bwriadu agor tafarn, deli a becws yn 2026 - gan wreiddio ei waith ymhellach yn ei ardal enedigol.
Bydd cornel fach o gegin Clwyd i’w ganfod ar safle S4C yn y Sioe Fawr yn rhoi blas o’r hyn sydd i ddod, a bydd cyfle i ennill taleb i fwyty Bryn ym Mhorth Eirias a noson yng ngwesty Ixoria, Glan Conwy.