Y Wasg

Y Wasg

S4C yn comisiynu cyfres ddrama fertigol 60 pennod i ddechrau ffilmio ar faes y Sioe

22 Gorffennaf 2026

Mae S4C wedi comisiynu cyfres ddrama fertigol newydd ar gyfer sianel TikTok Hansh, gyda’r stori ramant i gael ei hadrodd dros 60 pennod .  

Bydd y ffilmio ar gyfer Signal, sy’n dilyn y berthynas rhwng bachgen o Gaerdydd a merch o gefn gwlad Cymru, yn dechrau ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd yr wythnos hon. 

Daw’r comisiwn newydd, wedi’i chynhyrchu gan Gynyrchiadau Mojo, yn sgil llwyddiant drama fertigol gyntaf S4C, Yr Alwad (Cynyrchiadau Mojo), gydag enwebiadau yn y Gwobrau Ffilm Cenedlaethol yng nghategori’r Gyfres Fertigol Orau ac yng Ngwobrau Digidol Broadcast yn y categori Ffurf-Fer Orau wedi’i Sgriptio.  

Mae dramâu fertigol yn cynnwys cyfres o benodau byr a bachog sy’n para munudau’n unig, wedi eu ffilmio yn benodol er mwyn ffitio sgrîn ffôn a’u cyhoeddi ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol.  

Mae S4C yn benderfynol fod y comisiwn arloesol yn fodd o roi cyfle hefyd i ddatblygu talent newydd. Bydd gan y gyfres bedwar o awduron newydd, sef Brynach Higginson, Mari Izzard a Rhiannon Williams, ac awdur a chyfarwyddwr Yr Alwad, Alexander Williams, gyda Gwenno Hughes (Hafiach, Fflam) yn arwain y tîm. 

Ar ôl galwad gastio agored, bydd y gyfres hefyd yn rhoi’r cyfle i nifer o wynebau newydd serennu ar y sgrîn, gyda Gwenan Lloyd, Gabriel Owen a Joshua Romain yn chwarae rhannau Elliw, Alffi a Tom. 

Bydd Siriol Ousey (Hafiach) yn ymddangos fel Angie a Lili Mai Davies (Y Coridor, Bregus) yn chwarae Catrin.  

Dywedodd Guto Rhun, Comisiynydd Cynulleidfaoedd Ifanc S4C: “Mae arferion gwylio yn parhau i newid ac mae’n rhaid bod yn flaengar, yn enwedig wrth greu cynnwys sy’n cyrraedd cynulleidfaoedd iau. 

“Dwi wrth fy modd yn gweld S4C yn gweithio gyda’r cwmnïau cynhyrchu i arbrofi ar gynnwys cyffrous sy’n diddanu a difyrru ein cynulleidfaoedd.” 

Dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: “Mae dramâu fertigol yn fformat rhyngwladol poblogaidd ac yn adlewyrchu gweledigaeth S4C i drawsnewid i fod yn ddarlledwr digidol-yn-gyntaf. 

“Rydym yn falch iawn yn S4C o lwyddiant Yr Alwad ac yn edrych ymlaen at wylio mwy o gynnwys sydd yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw.  Mae cynnwys beiddgar sy’n teithio yn allweddol wrth i ni ehangu ein gwylio.”