Y Wasg

Y Wasg

S4C yn adnewyddu cytundeb tair blynedd ar gyfer pêl-droed domestig

23 Gorffennaf 2026

Mae S4C wedi adnewyddu ei ymrwymiad i bêl-droed domestig am y tair blynedd nesaf, gyda Sgorio yn parhau i ddarparu darllediadau am ddim o’r Cymru Premier Novira, Cynghreiriau Adran Genero, Cwpan Cymru CBDC a Chwpan Cymru Bute Energy.

Am y 19eg tymor yn olynol, Sgorio fydd partner darlledu swyddogol pêl-droed domestig yng Nghymru, gan gynnig dros 40 o gemau byw bob tymor o’r prif gystadlaethau cynghrair a chwpan, yn ogystal ag uchafbwyntiau, goliau, dadansoddiad a chynnwys ecsgliwsif ar draws llwyfannau darlledu, digidol a chyfryngau cymdeithasol.

Mae'r cytundeb yn sicrhau y bydd cefnogwyr yn parhau i fwynhau darllediadau byw o’r Cymru Premier Novira a Chynghreiriau Adran Genero, yn ogystal â gemau’r dynion a’r menywod o gystadlaethau Cwpan Cymru, gan gynnwys y ddwy gêm derfynol. Bydd yr holl ddarllediadau ar gael am ddim, gyda Sgorio yn parhau i fod yn bartner darlledu swyddogol pêl-droed domestig yng Nghymru.

Bydd gemau dethol o'r Cymru Premier Novira yn cael eu dangos yn fyw ar S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube Sgorio, gyda phedair o'r wyth gêm gyntaf a ddewiswyd yn cael eu chwarae ar nosweithiau Gwener. Dyddiau Sadwrn fydd y diwrnod rheolaidd arall ar gyfer gemau Sgorio. Mae’r tymor newydd yn cychwyn ar 31 Gorffennaf pan fydd Y Barri yn wynebu Cambrian yn y Cymru Premier Novira, yn fyw ar S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube Sgorio.  Bydd y gemau ar gael gyda sylwebaeth Cymraeg a Saesneg.

Yng Nghynghreiriau Adran, mae Sgorio wedi cryfhau ei ymrwymiad i bêl-droed menywod drwy ddangos deg gêm yn fyw bob tymor, gan gynnwys y gemau gorau ym Mhrif Adran Genero, Tlws Adran Genero a Chwpan Cymreig Bute Energy.

Yn ogystal â chynnwys digidol cynhwysfawr ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Sgorio a S4C Chwaraeon, gall ddilynwyr clybiau pêl-droed fwynhau tair blynedd arall o’r gêm yng Nghymru, i gyd yn rhad ac am ddim.

Dywedodd Sue Butler, Pennaeth Chwaraeon S4C:

“Rydym yn falch iawn o barhau â’n partneriaeth hir sefydlog gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac o ymestyn ein darllediadau o bêl-droed domestig yng Nghymru i’w trydydd degawd, ar adeg gyffrous i’r cefnogwyr wrth i Uwch Gynghrair Cymru ehangu i gynnwys 16 clwb.

“Mae S4C wedi bod ar flaen y gad o ran darlledu pêl-droed domestig yng Nghymru ac yn parhau i fod y prif ddarlledwr sy’n dangos pêl-droed domestig Cymru ar deledu am ddim, gan ddod â’r holl gyffro byw, uchafbwyntiau a straeon o glybiau a chymunedau ledled Cymru i gefnogwyr.”

Dywedodd Jack Sharp, Pennaeth Cynghreiriau Domestig Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Rydym wrth ein bodd i barhau â'n partneriaeth gydag S4C, a fydd yn gweld cynnydd yn y nifer o gemau pêl-droed domestig fydd yn cael eu darlledu am ddim i gefnogwyr ar hyd a lled y DU.  Mae S4C wedi bod yn gefnogwr brwd o bêl-droed Cymru ers amser, ac roedd hi'n bwysig sicrhau bod ein perthynas yn parhau wrth i ni ddechrau ar antur newydd a chyffrous yn Cymru Premier Novira.

"Mae ehangu ein darpariaeth darlledu am ddim ochr yn ochr â lansiad Cymru Football TV wedi bod yn un o brif amcanion ein strategaeth ddarlledu.  Trwy weithio gydag S4C, byddwn yn ehangu gwelededd, hygyrchedd a chyrhaeddiad y gêm ddomestig, gan sicrhau bod mwy o gefnogwyr nag erioed o'r blaen yn gallu ymgysylltu â phêl-droed Cymru, gan helpu ni i barhau i godi proffil ein cystadlaethau."

Nodiadau i Olygyddion

Pob gêm ar gael ar S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube Sgorio.