
24 Gorffennaf 2026
Mae S4C yn rhoi cyfle o’r newydd i gwmnïau gynhyrchu rhai o’i chyfresi a digwyddiadau mwyaf poblogaidd, wrth iddi weithredu ei strategaeth Mwy na Sianel Deledu.
O fis Hydref 2026, bydd S4C yn cyhoeddi tendrau agored am y canlynol.
Bydd y tendrau am y cyfnod darlledu 2028 ymlaen, a phob un yn galw am weledigaeth ddigidol-yn-gyntaf. Gall gwmnïau cynhyrchu wneud cais ar gyfer un neu fwy o’r cytundebau.
Meddai Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C:
"Mae’r penderfyniad i agor y comisiynau hyn i dendr yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gynnal sector gynhyrchu creadigol, cystadleuol a chynaliadwy yng Nghymru. Mae pob un o’r rhaglenni hyn yn meddu ar werth diwylliannol sylweddol ac yn chwarae rhan bwysig wrth ddathlu bywyd, iaith a chymunedau Cymru. Edrychwn ymlaen at dderbyn cynigion sy’n parchu cryfder y brandiau sefydledig hyn, gan gyflwyno syniadau ffres ac uchelgais greadigol ar gyfer y dyfodol."