Y Wasg

Y Wasg

Rhyddhau delweddau cyntaf ail gyfres y ddrama Cleddau

19 Awst 2026

 

Mae S4C wedi rhyddhau delweddau cyntaf ail gyfres y ddrama boblogaidd Cleddau, a fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C, BBC iPlayer a S4C Clic ym mis Hydref 2026. Mi fydd chwe phennod yn yr ail gyfres gyda DI Ffion Lloyd (Elen Rhys) a DS Rick Sheldon (Richard Harrington) yn dychwelyd wrth iddynt hela llofrudd sy'n defnyddio ap dêtio i stelcian ei ddioddefwyr.

Mae'r lluniau newydd, sydd wedi’u rhyddhau yn ystod Sioe Sir Benfro, yn arddangos arfordir y sir sy'n gefndir trawiadol i leoliad y ddrama. Ymhlith yr actorion sy'n dychwelyd mae Mali Ann Rees (DC ‘Mogsy’ Morgan) ac Aled Pugh (DS Celyn Howells). Hefyd yn dychwelyd mae Sharon Morgan (Delyth Lloyd), William Thomas (Griff Lloyd), Rhian Blythe (Helen Sheldon), a Hannah Daniel (Lisa Redwood). Mae aelodau newydd y cast ar gyfer yr ail gyfres yn cynnwys Saran Morgan (DC Catrin Duffy), Garmon Rhys (Tom Danbridge), Mabli Jên Eustace (Manon Grant) a Gareth David-Lloyd (Liam Floyd).

Roedd cyfres gyntaf Cleddau yn llwyddiant mawr i S4C yn 2024, gan gyflawni'r nifer uchaf o sesiynau gwylio ar gyfartaledd ymhlith unrhyw gyfres ar y gwasanaeth nad oedd yn rhaglenni plant nac yn ymwneud â chwaraeon, ac wedi ennill sgôr Mynegai Cynulleidfa o 86.

Enillodd Cleddau wobr y Ddrama Orau yng Ngwobrau RTS Cymru yn 2025, a chafodd hefyd ei henwebu mewn pedwar categori arall yng Ngwobrau BAFTA Cymru y llynedd, gan gynnwys Elen Rhys ar gyfer yr Actores Orau.

Mae ail gyfres Cleddau (6 x 50 munud) wedi ei hysgrifennu a'i chreu gan Catherine Tregenna, a'i haddasu i'r Gymraeg gan Hanna Jarman a Matthew Glyn Jones. Yr uwch-gynhyrchwyr yw Philip Trethowan a Ben Bickerton o Blacklight, a chyfarwyddwr y gyfres yw Siôn Ifan.

Mae Cleddau a Cleddau 2 wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.

Dywedodd Mared Swain, cynhyrchydd y gyfres:

"Roeddem wrth ein bodd gyda'r ymateb i gyfres gyntaf Cleddau, gan gynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt. Fe adawodd y stori, y cymeriadau a'r byd a grëwyd gan Catherine Tregenna gymaint o bosibiliadau i ni eu harchwilio, felly rydym yn falch iawn o allu dod ag ail gyfres i wylwyr.

"Mae wedi bod yn fraint dychwelyd i Sir Benfro gyda'n cast a'n criw, ac rydym yn hynod ddiolchgar i S4C, yn enwedig Gwenllian Gravelle, Pennaeth Ffilm a Drama'r sianel, am y gefnogaeth barhaus a'u ffydd yn y prosiect. Allwn ni ddim aros i gynulleidfaoedd ymuno â Ffion a Rick ar ymchwiliad gafaelgar ac annisgwyl arall yr hydref hwn."

Mae'r gyfres yn cael ei ffilmio gefn wrth gefn yn Gymraeg ac yn Saesneg, gyda'r fersiwn Saesneg o dan y teitl The One That Got Away. Bydd y gyfres yn cael ei dosbarthu'n fyd-eang gan Banijay Rights, adain ddosbarthu ryngwladol y cwmni cynnwys Banijay Entertainment. Mae'r cynhyrchiad yn cael ei gefnogi gan Llywodraeth Cymru drwy Creative Wales.

Bydd ail gyfres Cleddau yn cyrraedd S4C a BBC iPlayer ym mis Hydref. Mae'r gyfres gyntaf ar gael i'w ffrydio ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Lluniau ar gael yma.

Credyd llun: Paul Andrew.