
2 Medi 2026
Mae S4C wedi derbyn cyfanswm o 25 o enwebiadau ar draws ystod o genres amrywiol yng ngwobrau BAFTA Cymru 2026, gyda STAD (Cwmni Da/Triongl) a Y Golau: Dŵr (Long Story TV/APC/Triongl) ill dau wedi eu henwebu yng nghategori Drama Deledu.
Hefyd ym myd y ddrama, mae Buddug Povey wedi ei henwebu am y wobr Actores am chwarae rhan Kay Walsh yn yr opera sebon Rownd a Rownd (Rondo) - rhan mae hi wedi ei chwarae ers 27 o flynyddoedd erbyn hyn.
Mae enwebiad hefyd i Ciron Gruffydd yng nghategori Awdur ac i Griff Rowland yng nghategori Cyfarwyddwr: Ffuglen am eu gwaith ar Bariau (Rondo).
Mae enwebiad pellach i Y Golau: Dŵr hefyd, gyda Mali Evans yn cael cydnabyddiaeth yn y categori Golygu.
Roedd tri o enwebiadau i gynyrchiadau S4C yng nghategori Rhaglen Adloniant, gydag Amour a Mynydd (Darlun), Stiwdio 24/7 (Boom Cymru) ac Y Llais (Boom Cymru) i gyd yn cyrraedd y rhestr fer.
Ym maes Newyddion a Materion Cyfoes, roedd enwebiadau i Cymru ar Gyffuriau (ITV Cymru ar gyfer Hansh S4C), Foden: O Brifathro i Bedoffeil (Darlun) a Maxine Hughes – Canser: Ar ba gost? (Jet TV).
O ran rhaglenni ffeithiol, cafodd y ffilm ddogfen Y Crwydryn (Docshed) enwebiad yn y categori Dogfen Sengl a chafodd Mari Grug ei henwebu yng nghategori Cyflwynydd am gyflwyno’r rhaglen ddogfen Mari Grug: Un Dydd ar y Tro (Tinopolis) oedd yn ei dilyn ar ôl ei diagnosis o ganser.
Roedd pedwar o enwebiadau yng nghategori Cyfarwyddwr: Ffeithiol i unigolion a weithiodd ar gynyrchiadau S4C – i Andy Pritchard am ei waith ar Fy Ffrind ar Death Row (Darlun), Siôn Pierce Lewis am gyfarwyddo Stori’r Iaith (Rondo), Rhys Edwards a gyfarwyddodd Y Crwydryn a James Hale a gyfarwyddodd Ymgyrch Seal Bay (Lazer Beam), a gafodd ei ffilmio gefn-wrth-gefn â fersiwn Saesneg ar gyfer BBC Cymru Wales.
Cafodd Stori’r Iaith ddau enwebiad pellach, un ar gyfer Cyfres Ffeithiol, gyda Leusa Gwenllian hefyd yn cael ei chydnabod yn y categori Golygu.
Roedd pob un o'r enwebiadau yng nghategori Rhaglenni Plant yn gynyrchiadau S4C unwaith eto eleni, gydag enwebiadau i Dreigiau Cadi – Y Briodas (Yellow Barrels), Itopia (Boom) ac Ysbryd yr Oerfel (Cloth Cat).
Derbyniodd y ffilm opera Tanau’r Lloer (Afanti/OPRA Cymru/Severn Screen) enwebiad am Ffilm Nodwedd/Deledu, gyda Barcud (ITV Cymru ar gyfer Hansh S4C) yn derbyn enwebiad yng nghategori Ffilm Fer.
Dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: “Mae gweld cynnwys S4C o bob genre wedi ei enwebu ochr yn ochr â chynnwys gwych arall ar draws y wlad yn destun balchder mawr. Dwi’n gwerthfawrogi holl ymdrechion y sector cynhyrchu yng Nghymru am sicrhau cynnwys o’r radd flaenaf sy’n rhoi Cymru ar y map ac yn dangos i bawb ein bod ni’n Fwy Na Sianel Deledu.”
Bydd enillwyr BAFTA Cymru yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ar ddydd Sul 4 Hydref 2026.