Y Wasg

Y Wasg

Penodi Catrin Cooper a Dafydd Llewelyn yn Gomisiynydd Ffilm a Chomisiynydd Drama

3 Medi 2026

Mae S4C yn falch o gyhoeddi fod Catrin Cooper wedi ei phenodi yn Gomisiynydd Ffilm a Dafydd Llewelyn yn Gomisiynydd Drama newydd S4C.

Mae Catrin Cooper yn wneuthurwr ffilmiau gyda dros ugain mlynedd o brofiad ar draws ffilmiau nodwedd stiwdio, cynhyrchu annibynnol, datblygu a chyd-gynhyrchu rhyngwladol. Bu'n Gynhyrchydd Gweithredol ar Effi o Blaenau, a dorrodd recordiau swyddfa docynnau y DU ar gyfer sinema Gymraeg, ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar Star Wars: Gobaith Newydd, y fersiwn Gymraeg a gynhyrchwyd gan Lucasfilm mewn cydweithrediad ag S4C a Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.

Roedd ei gyrfa cynnar yn cynnwys rolau ar ffilmiau stiwdios gan gynnwys Harry Potter ar gyfer Warner Bros. a James Bond i Sony, cyn gweithio fel Gweithredwr Datblygu yn Ffilm Cymru. Yn ddiweddarach, cyflwynodd ‘O’r Sgript i’r Sinema’, y cwrs ysgrifennu sgript Cymraeg cyntaf gan NFTS Cymru, gyda chefnogaeth Cymru Greadigol ac S4C. Mae hi'n gyn-fyfyriwr o Rotterdam Producers Lab a NFTS Creative Business.

Dechreuodd Dafydd Llewelyn ei yrfa ym myd teledu fel aelod o dîm ysgrifennu yr opera sebon Pobol y Cwm (BBC Studios), cyn dod yn Olygydd Sgriptiau ac yna’n ddiweddarach yn Gynhyrchydd ar y rhaglen honno. Dros y blynyddoedd mae wedi gweithio ar gyfresi yn cynnwys Lan a Lawr (Boom Cymru), Stad (Triongl/Cwmni Da), Anfamol (BBC Studios) a Casualty (BBC Studios) cyn dychwelyd i Gwmderi fel Cynhyrchydd y Gyfres rhwng 2022 a 2025.

Yn sgil creu cynllun Sinema Cymru i gynhyrchu ffilm nodwedd yn y Gymraeg yn flynyddol, mae S4C wedi creu’r ddwy rôl: un yn comisiynu dramau ac opera sebon a’r llall yn canolbwyntio ar ffilm. Mae’r cynllun ffilm, sydd wedi’i gyd-ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol yn rhan o uchelgais ehangach S4C i wireddu strategaeth ‘Mwy na Sianel Deledu’ y darlledwr.

Daw’r apwyntiadau yn dilyn penderfyniad Gwenllian Gravelle i symud ymlaen i ddilyn cyfleoedd newydd, wedi saith mlynedd llwyddiannus yn S4C.

Yn ystod ei chyfnod fel Pennaeth Ffilm a Drama, mae Gwenllian wedi gwneud cyfraniad trawsnewidiol i strategaeth gynnwys ysgrifenedig ac allbwn creadigol S4C, ac wedi helpu i ddiffinio cyfnod newydd o uchelgais i ddrama a ffilm Gymraeg.

Dywedodd Catrin Cooper am ei apwyntiad:

“Dwi’n falch iawn o gael ymuno â S4C fel Comisiynydd Ffilm ar adeg wirioneddol gyffrous i sinema Gymraeg. Mae cyfle rwan i helpu i wneud S4C yn gyrchfan i’n gwneuthurwyr ffilm - rhywle lle maen nhw’n dod â’u syniadau cryfaf a mwyaf nodedig, ac yn gwybod bod wir uchelgais ar gyfer y gwaith. Fe wna i hefyd barhau i edrych tuag allan, a dysgu gan ranbarthau ieithoedd brodorol eraill sydd wedi creu cyfleoedd pellach i’w sectorau, tra’n adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes ar waith yma.”

Dywedodd Dafydd Llewelyn:

“Mae cael ymuno â thîm S4C yn fraint aruthrol a dwi’n edrych ymlaen at gael cyd-weithio gyda’r sector cynhyrchu i ddarparu arlwy drama cyffrous ac apelgar. Fel un a gafodd ei fagu ar gyfresi a sebon Cymraeg eu hiaith, dwi’n mawr obeithio y gallaf ychwanegu at y traddodiad holl bwysig hwn.”

Gan groesawu Catrin a Dafydd, meddai Prif Swyddog Cynnwys S4C, Llion Iwan:

“Dwi’n edrych mlaen i gyd-weithio gyda Catrin a Dafydd. Mae profiad Catrin o fyd ffilm am ein galluogi i adeiladu ar lwyddiant diweddar gyda ffilm yn y Gymraeg. Mae gyrfa hir Dafydd Llewelyn ym myd drama ac opera sebon ar sawl lefel yn gaffaeliad mawr i S4C.”

Bydd Catrin a Dafydd yn dechrau gweithio i S4C yn fuan.