
20 Medi 2026
Bydd S4C yn darlledu Chwedl Jan Morris nos Sul am 20.00, cyfres ddwy ran arbennig sy'n archwilio bywyd, gwaith a gwaddol ffigwr unigryw trwy lygaid ei mab ieuengaf, y prifardd a'r awdur Twm Morys.
Mewn cyfres hynod bersonol, mae Twm yn teithio drwy'r llefydd, y straeon a'r atgofion a luniodd fywyd Jan. Wrth wneud hynny, mae'n mynd ati i geisio ateb cwestiwn sydd wedi ei ddilyn ar hyd ei oes.
"Sut beth ydy bod yn fab i rywun fel Jan? Yn fy mhrofiad i, mi oedd o'n debyg i fod yn fab i ryw gymeriad chwedlonol."
"Pan oedd fy nhad i'n hogyn, Jim oedd ei enw fo. Wedyn pan aeth Jim yn ddyn a mynd i'r fyddin, James, a wedyn ar ôl mynd yn ddynes, Jan. Ond sawl Jan sydd? Wel, faint fynoch chi. Jan yr Ymerodraeth Brydeinig; Jan LGBT; Jan y Gymraes."
Mae Twm Morys yn mynd rhagddo i gyflwyno gwahanol haenau un o gymeriadau mwyaf hynod yr ugeinfed ganrif. Wrth grwydro o’r cartref teuluol ar lannau Afon Dwyfor i Fenis a Trieste, mae'r gyfres yn datgelu nid yn unig yr awdur byd-enwog a gyhoeddodd goncro Everest ym mhapur y Times, neu'r arloeswraig a drawsnewidiodd ei rhyw, ond hefyd y person preifat a fu'n rhiant, yn gyfaill ac yn gymydog.
Twm Morys yn Trieste
Mae'r gyfres yn olrhain bywyd a oedd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau unrhyw genedl. Mae'n adrodd stori rhywun a gyfarfu ag arweinwyr byd, enwogion a brenhinoedd, ond a ddewisodd dro ar ôl tro ddychwelyd i lan afon Dwyfor ac yn ôl at ei chymar oes, Elizabeth.
Yn ganolog i'r gyfres hefyd mae'r berthynas rhwng Jan â Chymru. Er iddi gael ei geni a'i magu yn Lloegr, roedd ganddi gysylltiadau dwfn â gwlad ei rhieni a ddaeth yn rhan annatod o'i hunaniaeth. Drwy ei llyfrau, ei chyfeillgarwch a'i hymrwymiad deallusol, daeth yn un o leisiau mwyaf dylanwadol Cymru yn y byd Saesneg.
Mae cyfraniadau gan gyfeillion, awduron, academyddion a'r rhai a'i hadnabu orau yn adeiladu portread cyfoethog o berson a oedd yn meddu ar allu anghyffredin i weld rhyfeddod yn y cyffredin. Yn ôl y rhai a fu'n agos ati, nid ei henwogrwydd na'i llwyddiant sy'n aros yn y cof gymaint â'i chwilfrydedd diddiwedd, ei dychymyg a'i charedigrwydd.
Mae'r bardd a'r awdures Gwyneth Glyn, partner Twm Morys, yn cofio mai profiad unigryw oedd bod yn rhan o sgyrsiau Jan. Meddai:
"Roedd y sgwrs fel y lle yma [eu cartref]. Mae gen ti lun o Garndolbenmaen a Manhattan ochr yn ochr, ac felly roedd y sgwrs ei hun yn ddifyr doedd.
"Mae 'na lot o bobl yn sôn mor rhyfeddol oedd Jan fel person, ond i mi roedd Jan ei hun yn rhyfeddu at y byd ac yn ffeindio rhyfeddod yn y pethau mwyaf cyffredin rywsut, ac ella dyna oedd yn ei gwneud hi'n awdur mor doreithiog a gwych a hefyd yn gwmni mor ddifyr."
Mae Chwedl Jan Morris yn bortread o awdur eithriadol a wnaeth fyw sawl bywyd mewn un oes, ond mae hefyd yn deyrnged deimladwy gan fab i riant a fu'n ffynhonnell diddiwedd o straeon, rhyfeddodau a doethineb.
Trwy straeon personol Twm Morys a chyfraniadau nifer o'r bobl a gafodd eu hysbrydoli gan Jan, mae'r gyfres yn dathlu unigolyn wnaeth fyw bywyd eithriadol ac sydd wedi gadael argraff arbennig ar lenyddiaeth, ar Gymru ac ar y byd.