Y Wasg

Y Wasg

Pijin: Addasiad o nofel arobryn Alys Conran yn dod i’r sgrin fawr

27 Hydref 2026

Mae‘r gwaith ffilmio wedi cwblhau ar Pijin, ffilm newydd Gymraeg wedi’i chyfarwyddo gan Euros Lyn (Pride & Prejudice i Netflix, Heartstopper, Happy Valley) a’i chynhyrchu gan Triongl ar gyfer S4C fel rhan o gynllun Sinema Cymru. 

Mae’r ffilm wedi’i haddasu ar gyfer y sgrin fawr gan Angharad Elen o nofel arobryn Alys Conran, Pigeon, gyda Nora Ostler Spiteri (Un Bore Mercher; Y Gwyll) yn cynhyrchu.  

Mae’r tîm uwch gynhyrchu yn cynnwys John Giwa-Amu (The Party, H is For Hawk), ynghyd â Gethin Scourfield (Y Gwyll/Hinterland; The Miniaturist), Alec Spiteri (Y Golau/The Light in the Hall; Keeping Faith) ac Angharad Elen.  

Wedi’i gosod ym Methesda, yng nghanol ardal chwareli llechi gogledd Cymru, mae Pijin yn dilyn dau ffrind, Pijin ac Iola, a gyfarfu yn ystod haf 1992. 

Mae Pijin, bachgen 12 oed a chanddo ddychymyg byw, yn dyheu am ddianc rhag ei fywyd gartref. Wrth i’w ddychymyg fynd ag ef i fyd arall gyda Iola, mae’r ddau’n dechrau credu yn eu straeon eu hunain. Ond wrth i’r ffin rhwng ffantasi a realiti ddechrau pylu, mae eu hantur yn cymryd tro tywyll – ac yn fuan iawn, mae gwaed ar eu dwylo. Gwaed go iawn. 

 Ymysg cast y ffilm mae’r newydd-ddyfodiaid Mabon Gwyn Williams ac Aria Medi; Rhodri Meilir (Craith, My Family); Lois Jones (35 Diwrnod, Rownd a Rownd); Rhian Blythe (Cleddau, Craith, Gwaith/Cartref), Sam Bottomley (How to Have Sex, Ackley Bridge); Luned Elfyn (Rownd a Rownd); Barry Sloane (Revenge, Longmire, SIX, Call of Duty) a Priya Rose Brookwell (The Lazarus Project, Grow).

 Yn dilyn cyhoeddiad am y ffilm Western Cymraeg cyntaf, Lluest, hwn yw’r ail gynhyrchiad a ddatblygwyd drwy gynllun Sinema Cymru. 

Mae Sinema Cymru yn gydweithrediad rhwng S4C, Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol a Ffilm Cymru Wales i gefnogi ffilmiau nodwedd Cymraeg sydd â’r potensial i fod ar y sgrin fawr yn rhyngwladol.  Comisiynwyd y ffilm gan Gwenllian Gravelle, cyn Gomisiynydd Drama a Ffilm S4C. 

Mae'r ffilm hefyd wedi cael ei ariannu gan Gronfa Cynnwys Masnachol S4C a  Ffilm Cymru.  

Mae’n dilyn llwyddiant y ffilm Effi o Blaenau, oedd yn gydweithrediad rhwng S4C a Cymru Greadigol.  

Cyhoeddwyd nofel glodwiw Pigeon gan Alys Conran yn 2016 gan Parthian, ac enillodd dair gwobr yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn Cymru 2017, gan gynnwys y brif wobr. Cafodd y nofel ei rhestru hefyd ar restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas.

Cyfieithwyd y llyfr i'r Gymraeg gan yr awdur a'r cyfieithydd Siân Northey, a chyhoeddwyd y fersiynau Cymraeg a Saesneg ar yr un pryd, y tro cyntaf i hyn ddigwydd yn y DU. Yn ddiweddarach, addaswyd y nofel ar gyfer y llwyfan gan Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo, gyda'r cynhyrchiad yn teithio ledled Cymru yn 2023.

Meddai Catrin Cooper, Comisiynydd Ffilm S4C:

"Mae gwneud ffilm yn dechrau gyda'r bobl y tu ôl iddi, ac mae Triongl wedi dod â thîm arbennig o gryf ynghyd ar gyfer ei ffilm nodwedd gyntaf. Mae S4C yn falch o gefnogi eu gwaith, ac edrychwn ymlaen at rannu'r ffilm orffenedig gyda chynulleidfaoedd." 

Meddai Euros Lyn, Cyfarwyddwr ac Uwch Gynhyrchydd:

“Mae’n fraint gweithio gyda thalent fel Alys Conran ac Angharad Elen - criw eithriadol, ac actorion ifanc llawn brwdfrydedd sy’n gwneud eu hymddangosiad cyntaf ar y sgrin, ynghyd â thirwedd epig Dyffryn Ogwen sy’n gynfas sinematig i’r ffilm”.  

Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:  

  "Mae hwn yn gyfnod mor gyffrous i ffilmiau Cymraeg ac mae Pijin yn enghraifft wych arall o'r dalent greadigol sydd gennym yma yng Nghymru. Mae'r ffilm Gymraeg hon yn dod â chast a chriw eithriadol at ei gilydd i addasu nofel glodwiw Alys Conran ar gyfer y sgrin fawr, ac mae'n wych ei bod yn digwydd o ganlyniad i Sinema Cymru, partneriaeth rhwng Cymru Greadigol, S4C, a Ffilm Cymru Wales sydd wedi'i chynllunio'n benodol i gefnogi a chyflymu ffilm Gymraeg a'i helpu i gyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl.  

 "Mae cefnogi adrodd straeon uchelgeisiol fel hyn nid yn unig yn arddangos ein talent anhygoel yn y diwydiant i gynulleidfaoedd gartref, ond mae ganddo'r potensial hefyd i roi ffilm Gymraeg yn gadarn ar y llwyfan rhyngwladol. Edrychaf ymlaen at weld y ffilm orffenedig."