
18 Awst 2025
Bydd cyfres newydd ar S4C yn dod â dogn dda o hwyl, hiwmor a lliw i gartrefi plant bach Cymru ddiwedd y mis hwn. Mae Parc Glan Gwil yn addo i fod yn gyfres bydd plant bach o 0 i 6 oed yn ei mwynhau a throi ati dro ar ôl tro.
Mae’r gyfres wedi ei lleoli mewn pentref gwyliau sydd yn llawn cymeriadau lliwgar a hoffus – y lle ddelfrydol i blant bach glywed Cymraeg naturiol a chadarnhaol.
Efallai bydd y plant yn mopio ar Misha Mop, y glanhawraig hapus sy’n cadw popeth yn sgleiniog; neu’n dotio ar Sioned Siop y perchennog siop sydd yn hoffi trefn; neu beth am Hywel Hwyl sy’n hoff o ddiddanu gyda thriciau a gemau; a Dion Diogelwch sy’n sicrhau bod pawb yn saff.
Yn ôl yr actores Lois Meleri Jones sy’n portreadu Sioned Siop, dyma un o’i rolau actio gorau erioed, meddai:
“Mae Parc Glan Gwil yn ddrama fywiog, liwgar ac addysgiadol. Da ni wedi cael lot o hwyl yn ei chreu a gobeithio fod hynny i’w gweld. Dan ni yn trafod themâu pwysig o bennod i bennod fel pwysigrwydd ailgylchu, ac yn dysgu pynciau sylfaenol fel cyfri’ a lliwiau. Gobeithio y bydd yn cymryd sylw y plant ac yn eu diddanu heb ei gwneud hi’n amlwg ein bod hefyd yn addysgu.
“Mae gen i fab bach 2 flwydd oed a hanner, a dwi’n gyffrous i eistedd i lawr hefo Elis i gael gweld ei ymateb! Mae o llawer rhy ifanc i weld unrhyw beth arall dwi wedi ffilmio ar gyfer S4C fel Dal y Mellt, Craith... ond mae Parc Glan Gwil am fod yn berffaith iddo fo.”
Syr Gwil yw’r cymeriad sydd yn berchennog ar y cyfan gan redeg y pentref gwyliau – fe sydd yn darganfod y broblem ac yna dweud wrth eraill yn y Parc i’w drwsio! Carwyn Glyn sydd yn portreadu’r cymeriad hoffus – cymeriad tra wahanol i’w gymeriad yn Pobol y Cwm, DJ, fuodd yn ei bortreadu am 11 mlynedd. Meddai Carwyn:
“Mae hyn yn eithaf gwahanol i fy rôl arferol, yn enwedig gwisgo mwstas – ’oedd hwnna yn ychwanegu lot i’r cymeriad.
“Cyfresi sebon a dramâu dwi wedi gwneud yn arferol a lleisio cartwnau, ond roedd cael bod yn rhan o gyfres blant yn grêt, roedd angen gwneud y cymeriad yn fwy o faint ond hefyd cael y balans i osgoi mynd ormod dros ben llestri.
“Mae lot o gymeriadau ynddi sy’n dod ag acenion gwahanol ardaloedd o Gymru – pob un yn unigryw a gwahanol, a bydd y plant yn siŵr o gael eu ffefryn!”
Rose Datta, enillydd Y Llais eleni, sydd yn canu’r gân agoriadol fydd yn siŵr o fynd yn sownd yn eich pennau!
Cynyrchiadau Mojo sydd yn cynhyrchu’r gyfres hon. Bu’r cwmni’n cyd-weithio gyda Sgil Cymru trwy rhoi cyfle i bedwar prentis weithio ar y penodau. Yn ychwanegol at hyn rhoddwyd cyfle i dri o gyfarwyddwyr sydd wedi gweithio ar ffilmiau byrion gyda’r cwmni It’s My Shout i gyfarwyddo rhai o’r penodau yn y gyfres.
Mae’r gyfres yn cynnwys 26 pennod, pob un ddim mwy na 15 munud o hyd, gan ei gwneud yn berffaith ar gyfer sylw byr plant bach.
Mae pob stori'n dod â neges gadarnhaol, yn hyrwyddo gwerthoedd fel cyfeillgarwch, rhannu, helpu, a pharch – i gyd trwy ddefnyddio Cymraeg syml ac ymarferol.
Mae’r cymeriadau ynghyd â’r plant sy’n gwylio, yn dysgu mai trwy gyd weithio a gwrando ar ei gilydd y daw popeth i fwcwl, y broblem wedi ei ddatrys a'r gwersyllwyr yn cael gwyliau gwerth chweil.
Cafwyd lansiad o’r gyfres ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ar ddydd Llun 4 Awst gyda cast o’r gyfres yn cerdded ar hyd y maes at stondin S4C i gwrdd a chyflwyno eu hunain i blant Cymru.
I gyd fynd â’r gyfres hon mae cwmni cyhoeddi llyfrau Atebol wedi cyhoeddi llyfr ‘Hywel Hwyl a’r Gwningen’ gan Joanna Davies a’r darluniau gan Paul Nicholls, gyda’r bwriad o gyhoeddi dwy arall mewn cyfres ddeniadol cyn y Nadolig.
Mae S4C yn falch i gyhoeddi cyfresi eraill newydd ar gyfer plant. Bydd Caban Banana Gareth yn dechrau ar 25 Awst am 7am yn diddanu plant bach Cyw a bydd Taclo’r Tywydd ar gyfer y plant hŷn yn dechrau ar y 5 Medi am 5.25pm.