Y Wasg

Y Wasg

Cystadleuaeth Cân i Gymru 2026 ar agor

7 Tachwedd 2025

 

Mae cystadleuaeth gyfansoddi Cân i Gymru 2026 wedi agor i geisiadau.

 

Mi fydd y gystadleuaeth yn cael ei ddarlledu yn fyw o Faes Sioe Môn ar nos Sadwrn 28 Chwefror 2026. Dyma fydd y tro cyntaf mewn deg mlynedd i’r gystadleuaeth ddychwelyd i Ynys Môn.

 

Mae hyn yn dilyn llwyddiant cynnal y gystadleuaeth yn stiwdios ffilm Dragon Studios ym Mhenybont eleni pan ddaeth y gân ‘Troseddwr yr Awr’ gan y band ifanc o Sir Gaerfyrddin, Dros Dro, i’r brig.

 

Mae’r gystadleuaeth yn rhoi cyfle i gyfansoddwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu eu doniau cerddorol a chystadlu am deitl eiconig Cân i Gymru 2026.

 

Bydd y gân fuddugol yn cipio tlws y gystadleuaeth a gwobr ariannol o £5,000, gydag enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000. 

 

Yn ôl i gadeirio panel y rheithgor mae Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr.

 

Dywedodd Osian:

 

“Dwi mor gyffrous bod Cân i Gymru yn dod i Ogledd Cymru unwaith eto. Dwi’n annog pob un o bob oedran i drio, yn enwedig os ydych chi mewn band ifanc. Cerwch amdani! Peidiwch a meddwl am gyn-enillwyr, mi ydyn ni isio clywed be’ sydd gennych CHI i’w ddweud.”

 

Yn ymuno ag Osian ar y rheithgor eleni, mae Barry ‘archie’ Jones o’r band Celt, y canwr a'r cyfansoddwr, Mali Hâf, y cyflwynydd a’r DJ radio, Mirain Iwerydd, a phrif leisydd y band Gwilym, Ifan Pritchard.

 

Dywedodd Mali Hâf:

 

“Ro’n i wrth fy modd i gael gwahoddiad i fod ar reithgor Cân i Gymru. Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn rhan o fy nhaith fel cerddor. A fel cerddor fy hun, dwi’n gwybod pa mor sbesial yw hi i ysgrifennu cân.

 

“Dwi’n edrych ymlaen at glywed miwsig newydd sbon a tiwns sydd heb weld golau dydd eto. Dwi’n caru arbrofi wrth gyfansoddi felly dwi’n awyddus i glywed amryw o genres. Dwi’n chwilio am liw, stori, dychymyg a rhywbeth bachog sy’n mynd i aros yn fy mhen.”

 

Dywedodd Efa o’r band Dros Dro:

 

“Ces i fy magu yn gwylio Cân i Gymru. Ers dwi’n gallu cofio - bob mis Mawrth yn gwylio Cân i Gymru. Mae’r buddiannau o fod yn rhan o rywbeth mor fawr a sydd wedi bod yn mynd am gymaint o flynyddoedd - mi all newid eich bywyd chi, fel mae wedi newid bywydau ni.

 

“Mae’n agor drysau i gyfleoedd hollol ffantastig, bysen ni byth wedi cael os nad oedden ni wedi trio, felly ewch ati i ‘sgwennu cân sydd yn meddwl rhywbeth i chi a cerwch amdani!”

 

Bydd y gystadleuaeth ar gael i’w gwylio yn fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer gyda Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur yn ôl i gyflwyno. Ac mae cyfle i fod yn rhan o gynulleidfa’r noson ym Maes Sioe Môn gyda tocynnau ar gael i’w harchebu yn fuan.

 

Y dyddiad cau i wneud cais yw dydd Sul 4 Ionawr am 23:59. Er mwyn cystadlu, ewch draw i wefan S4C am ragor o wybodaeth, telerau ac amodau a ffurflen ymgeisio: www.s4c.cymru/canigymru