
10 Hydref 2025
Mae S4C heddiw yn cadarnhau bod setliad wedi’i gytuno gyda Siân Doyle i ddod â’i holl achosion yn erbyn S4C a Rhodri Williams i ben.
Mae telerau’r cytundeb hwnnw’n gyfrinachol ac mae’r setliad wedi’i gyrraedd heb unrhyw gydnabyddiaeth o atebolrwydd.
Mae’n anorfod y byddai parhau â’r prosesau cyfreithiol wedi golygu amser, cost, a straen sylweddol i bawb dan sylw. Mae’r partïon yn falch o fod wedi datrys eu gwahaniaethau ac o fod wedi dod â’r mater i ben.
Yn dilyn y mater hwn, cynhaliodd S4C adolygiad llywodraethu annibynnol ac mae eisoes wedi cyflwyno Cod Diwylliant newydd a chamau, ymysg mesurau eraill, i gefnogi Awdurdod Annibynnol Safonau’r Diwydiannau Creadigol (CIISA) er mwyn sicrhau bod gwerthoedd S4C yn cael eu cynnal ar a thu hwnt i’r sgrin.
Ni fydd S4C yn gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater hwn.