Y Wasg

Y Wasg

Rownd a Rownd yn dathlu 30 mlynedd

11 Medi 2025

Ar 11 Medi 2025 bydd yr opera sebon poblogaidd, Rownd a Rownd yn cyrraedd carreg filltir arbennig wrth ddathlu tri deg mlynedd.  

Daeth Rownd a Rownd i’r sgrin yn 1995 fel cyfres sebon i bobl ifanc, gyda phenodau 15 munud o hyd oedd yn dilyn helyntion criw o bobl ifanc ar rownd bapur.    

Ers hynny, mae’r gyfres sy’n cael ei chynhyrchu gan gwmni teledu Rondo Media, wedi tyfu i fod yn un o raglenni mwyaf poblogaidd S4C. Mae hi’n gyfres sy’n apelio i'r teulu cyfan, gyda dwy bennod hanner awr yn darlledu bob wythnos.  

Ar ddiwrnod y pen-blwydd, bydd pennod ddwbwl llawn troadau dramatig i lansio cyfres newydd sbon. Bydd y bennod yn ateb cwestiynau o’r gyfres flaenorol, a bydd fflachiadau ymlaen i’r dyfodol yn sgîl digwyddiad mawr fydd yn ysgwyd Glanrafon i’w seiliau.  

 Yn ystod wythnos y pen-blwydd bydd cyfle i  wylio’r gyfres gyntaf o 1995 ar sianel YouTube S4C, gan gynnig cyfle prin i ail-fyw lle ddechreuodd y cwbl gyda’r cast gwreiddiol, gan gynnwys Aled Shaw (Owain Arthur), Lowri Mai Evans (Bethan Ellis Owen), Ffion Parry (Fflur Medi Owen), Ari Stiffs (y diweddar Dyfrig Evans), ac Islwyn Morgan (y diweddar Dewi ‘Pws’ Morris).  

 Bydd y dathlu’n symud i’r llwyfan ar nos Sadwrn 13 Medi, yn Theatr Pontio, Bangor, lle bydd ffans yn cael cyfle i gwrdd â chast a chriw’r gyfres a mwynhau perfformiadau cerddorol gan y cast, sesiwn cwestiwn ac ateb ac ambell sypreis.  

 Yn ystod y noson, bydd llyfr newydd gan wasg Y Lolfa – Rownd a Rownd yn Dathlu’r 30 yn cael ei lansio. Mae’r gyfrol yn olrhain hanes a dylanwad y gyfres dros y tri degawd, gyda chyfraniadau gan gast a chriw o bob cyfnod, ynghyd â chasgliad helaeth o luniau,  

 Yn ogystal â’i llwyddiant ar y sgrin, mae Rownd a Rownd wedi chwarae rhan fawr wrth roi Ynys Môn ar y map. Porthaethwy yw cartref ‘Glanrafon’, y pentref dychmygol lle mae’r gyfres wedi’i seilio – gyda’i ‘stryd’ adnabyddus o  fusnesau ffuglennol - ‘Sgram’, ‘Bythol Wyrdd’, ‘Dal i Dorri’ a ‘Copa’ - i’w gweld yng nghalon y dref. Yn fwy diweddar, mae Stiwdios Aria, Llangefni hefyd wedi dod yn gartref i rai o setiau’r cynhyrchiad.   

 Meddai Bedwyr Rees, Uwch-gynhyrchydd Rownd a Rownd:   

“Rydym ni yn Rondo yn hynod falch o allu dathlu y garreg filltir arbennig yma i Rownd a Rownd. O’i dechreuad fel cyfres o raglenni chwarter awr i blant, mae bellach yn un o gonglfeini oriau brig S4C, ac yn parhau i dyfu cynulleidfa ar deledu ac ar draws y platfformau digidol.   

 “Mae hynny yn destiment i ymroddiad ac angerdd pawb sydd wedi gweithio ar Rownd a Rownd dros y blynyddoedd, ac mae’n diolch ni i bob un ohonyn nhw, ac yn arbennig felly i’n cynulleidfa hynod driw, boed nhw wedi bod efo ni ers 30 mlynedd, neu newydd ymuno!”  

  Meddai Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Mae Rownd a Rownd yn fwy na chyfres deledu - mae hi’n cynnig portread o fywyd bob dydd; y profiadau, yr iaith a’r cymeriadau sy’n adlewyrchu cymaint o gymunedau Cymraeg gogledd Cymru.   

 “Mae cenhedlaeth gyfan o wylwyr wedi tyfu i fyny gyda’r gyfres, ac mae hi wedi bod yn  feithrinfa ar gyfer actorion, ysgrifennwyr, cynhyrchwyr a thechnegwyr yng ngogledd Cymru.  

  “Wrth nodi carreg filltir mor bwysig â 30 mlynedd, rydym yn dathlu cyfraniad diwylliannol Rownd a Rownd, a chyfres arbennig iawn sy’n tynnu teuluoedd at ei gilydd ar y soffa i fwynhau drama ac adloniant yn y Gymraeg.”