Y Wasg

Y Wasg

S4C i ddarlledu’r Tour de France eleni

30 Mehefin 2026

 

Mae S4C wedi sicrhau'r hawliau i ddarlledu'r Tour de France yn 2026, gan roi cyfle i wylwyr ddilyn y ras feicio fwyaf yn y byd trwy gyfuniad o gymalau byw ac uchafbwyntiau.

Bydd darllediadau Cymraeg y ras eleni yn digwydd rhwng 4–26 Gorffennaf, gyda chymysgedd o uchafbwyntiau a darllediadau byw ar draws S4C a'r llwyfannau digidol.

Bydd y Tour 2026 yn cychwyn yn Barcelona ar 4 Gorffennaf cyn gorffen ar y Champs-Élysées ym Mharis ar 26 Gorffennaf. Yn 2027, bydd y ras yn cychwyn yng Nghaeredin ar 2 Gorffennaf ac yn gorffen ym Mharis ar 25 Gorffennaf, gyda chymalau agoriadol ar draws yr Alban, Lloegr a Chymru.

Mae S4C hefyd mewn trafodaethau i ddarlledu'r Tour de France yn 2027 pan fydd y ras yn dechrau yn y DU ac yn mynd trwy Gymru am y tro cyntaf erioed.

Eleni, mi fydd y tîm cyflwyno yn cynnwys Rhodri Gomer,  Peredur ap Gwynedd, Gruff Lewis a Manon Lloyd.

Dywedodd Peredur ap Gwynedd:

“Rwy'n hapus iawn fod S4C yn darlledu'r Tour de France unwaith eto, am y 13eg mlynedd yn olynol. Mae e'n eithaf boncyrs ein bod ni wedi darlledu'r ras ers 2014. Ac wrth gwrs, fe fydd cymal o'r Tour yng Nghymru y flwyddyn nesaf – dyw'r gair 'cyffrous' ddim hyd yn oed yn agos i sut rwy'n teimlo am y dyfodol!"

Bydd y darllediad, sydd wedi ei is-drwyddedu gan TNT Sports, yn cael ei gynhyrchu ar gyfer S4C gan Sunset & Vine.

Nodiadau i Olygyddion

Manylion darlledu:

Cymal 1, 2, 3, 19, 20 a 21 – S4C, S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube S4C Chwaraeon.

Cymal 18 – S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube S4C Chwaraeon.

Uchafbwyntiau’r holl gymalau – S4C, S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube S4C Chwaraeon.