
2 Rhagfyr 2025
S4C yw’r lle i fod i blant fwynhau ac ymlacio y Nadolig hwn. Bydd y teulu cyfan yn gallu mwynhau animeiddiadau gwreiddiol ar S4C. Bydd premiere stori am garw unigryw, Nolig, a stori wreiddiol am ferch fach ddewr mewn coedwig yn Ysbryd yr Oerfel; bydd clasuron Nadolig Deian a Loli a phenodau arbennig o gartwnau poblogaidd fel Blŵi, Shrek a Madagascar – bydd y plant wrth eu boddau.
Meddai Sioned Geraint, Comisiynydd Cynnwys Plant a Dysgwyr S4C:
“Mae’r Nadolig yn gyfnod hudolus i blant, ac rydym wrth ein boddau’n cynnig amrywiaeth gyfoethog o raglenni sy’n llawn dychymyg, cynhesrwydd ac antur. O animeiddiadau newydd i glasuron, ein nod yw dod â theuluoedd at ei gilydd a dathlu storïa weledol Cymraeg ar ei gorau. Rydym yn falch o ddarparu lle diogel, llawen a chreadigol i blant ei fwynhau dros y Nadolig i gyd yn y Gymraeg.”
Mae’r arlwy Nadolig ar S4C eleni’n cael ei noddi gan Hybu Cig Cymru.
Ffilmiau Gwreiddiol Cymraeg
Bydd Ysbryd yr Oerfel ymlaen ar ddydd Nadolig 25 Rhagfyr. Mae’r animeiddiad hwn wedi ei leoli yng Nghymru'r Oesoedd Canol gan adrodd stori frawychus merch fach ddewr sy'n benderfynol o achub ei thad er gwaethaf pob rhwystr. Pan mae Nia'n mynd ar goll yn y goedwig yng nghanol storm eira, nid oes dewis ganddi ond gwneud bargen angheuol gydag ysbryd. Mae Ysbryd yr Gaeaf yn ei hachub, ond am gost tu hwnt i ddeall. Rhaid i Nia deithio'n ddwfn i galon coedwig dywyll y gaeaf tragwyddol i wynebu'r creadur drygionus ac achub ei thad.
Mae Ysbryd yr Oerfel yn gynhyrchiad cwmni Cloth Cat yng Nghaerdydd. Jon Rennie ydi Rheolwr gyfarwyddwr ac awdur y ffilm, a’r awdures arobryrn Manon Steffan Ros sydd wedi ysgrifennu’r sgript ddwyieithog.
Disgrifia Jon Rennie y ffilm fel “antur hwylus ar gyfer y teulu gyfan i’w mwynhau”.
“Yr ysbrydoliaeth oedd i greu stori dylwyth teg wych, chwedl newydd i Gymru, rhywbeth sydd ychydig yn wahanol i’r hyn sydd wedi digwydd o’r blaen. Yng nghanol y gaeaf rydych chi eisiau cwtsio gyda’ch gilydd, a gwylio ffilm hwyliog a brawychus gyda’ch gilydd.”
Derbyniodd y ffilm fer Nadoligaidd, a gaiff ei hadnabod yn Saenseg fel The Ghost of Midwinter, gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.
Mae Nolig yn animeiddiad wedi’i gyd-gynhyrchu rhwng S4C, TG4 (y darlledwr iaith Wyddeleg) a BBC Northern Ireland, a bydd yn cael ei darlledu yn Gymraeg a’r Wyddeleg ar 14 Rhagfyr.
Mae’r ffilm yn dilyn carw sydd yn darganfod mai ef yw'r cawr-garw olaf sy'n bodoli! Rydyn ni'n cwrdd â Nolig am y tro cyntaf ar ei ben-blwydd - neu'n hytrach, y diwrnod y mae'r teulu'n dathlu dod o hyd iddo. Daeth i fywydau Dad a Siân un noson aeafol ddeng mlynedd yn ôl, pan ddaethon nhw o hyd iddo yn y cylch cerrig ar y mynydd. Heb neb o'i berthnasau i'w gweld, maen nhw'n ei gymryd i mewn ac yn ei fagu fel rhan o'r teulu.
Mae blynyddoedd yn mynd heibio, ac mae’r carw bach yn tyfu’n fawr. Mae Nolig yn hapus iawn ei fyd ac yn caru’r gymuned mae’n byw ynddi. Yna, un diwrnod, mae popeth yn cael ei droi ar ei ben wrth iddo ddarganfod mai Mawralocerws Anferthws yw e, sef cawr-garw, sydd yn ôl pob tebyg wedi marw allan. Nolig, mae’n siŵr felly yw’r olaf sy'n bodoli!
Amser Stori
Bydd cyfres newydd o Nos Da Cyw yn dechrau ar 3 Rhagfyr gyda nifer o wynebau adnabyddus Cymru yn swatio a darllen stori nos da i’r plant lleiaf. Un gafodd fodd o fyw yn darllen stori i’r plant oedd y gantores a’r gyflwynwraig Bronwen Lewis – cadwch lygad mas amdani!
Cartŵns Cyfarwydd
Ar ddydd Nadolig a diwrnod San Steffan bydd rhaglenni poblogaidd yn dathlu’r Nadolig gyda phenodau arbennig – gall y plant ddymuno hwyl yr ŵyl yng nghwmni:
· Pws Mewn Bwts
· Miri Madagascar
· Nadolig Shrek
· Nadolig y Mwsifantod
Ac wrth gwrs bydd yna gyfle i ail ymweld â rhai o glasuron Nadolig i’r plant gyda dwy raglen Deian a Loli, a chyfle eto i fwynhau cyngerdd arbennig Cyw a’r Gerddorfa. Wrth i’r flwyddyn ddod i ben, bydd cyfle hefyd i fwynhau Blŵi sydd wedi cyrraedd Cymru yn ddiogel o Awstralia. Bydd y bennod gyntaf ar S4C ar 30 Rhagfyr.
Un o glasuron mwyaf S4C ydy’r ffilm deulu Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig a bydd cyfle i’r teulu cyfan ei mwynhau ar 21 Rhagfyr – Nadolig Llawen i bawb!
Cafodd datganiad am arlwy Nadolig yr oedolion ar S4C ei chyhoeddi ar 1af Rhagfyr ac i’w gweld yma.