
17 Ebrill 2026
Mae Seren Jones wedi ei henwi’n Gyflwynydd y Flwyddyn yng Ngwobrau RTS Cymru 2026 – wrth i S4C dderbyn cyfanswm o saith gwobr ar draws amrywiaeth o gategorïau.
Cafodd y gwobrau eu cynnal yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar nos Wener 17 Ebrill.
Mae’r seremoni wobrwyo flynyddol yn dathlu’r cynnwys gorau gan fyfyrwyr yn ogystal â gweithwyr y diwydiant darlledu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Cafodd Seren Jones ei henwi’n Gyflwynydd y Flwyddyn am y rhaglen Seren Jones: Yn Fyw yn y Dŵr, cynhyrchiad Rondo ar gyfer S4C.
Yn y ddogfen, sydd ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer, mae Seren yn archwilio i’r rhesymau pam mae cyn lleied o bobl Ddu ac Asiaidd yn nofio.
Yn gyn-newyddiadurwr a nawr yn gyflwynydd, mae Seren wrthi ar hyn o bryd yn ffilmio cyfres newydd i S4C am hanes mewnfudo i Gymru.
Enillodd Malen Meredydd y Wobr Seren sy’n Codi am ei gwaith ar y sioe gêm Y Deis, cynhyrchiad Slam Media ar gyfer S4C.
Malen yw Cynhyrchydd Castio’r gyfres, sydd yn croesawu parau o bob cwr o Gymru i rolio’r Deis.
Aeth y wobr Adloniant Ffeithiol i Y Crwydryn, wedi ei gynhyrchu gan Docshed ar gyfer S4C.
Mae’r ffilm nodwedd yn dilyn y canwr gwlad Wil Tân ar siwrnai ar draws Gymru, wrth iddo drafod rhai o bynciau mawr bywyd.
Beth yw Pwynt yr Eisteddfod? oedd yn fuddugol yn y categori Gwreiddiol Digidol (cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C), tra bod Dreigiau Cadi – Y Briodas wedi ennill yng nghategori Plant (cynhyrchiad Yellow Barrels ar gyfer S4C).
Cafodd y Wobr Digwyddiad Byw ei roi i un o uchafbwyntiau calendr S4C - Y Sioe 2025 (cynhyrchiad Boom/Slam ar gyfer S4C), tra bo’r Wobr Newyddion a Materion Cyfoes (Eitem) wedi mynd i raglen Newyddion S4C (cynhyrchiad BBC Cymru ar gyfer S4C).
Cafodd cynyrchiadau S4C gyfanswm o 21 o enwebiadau ar draws 13 categori i gyd.
Dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: “Dwi’n falch iawn o bawb sydd wedi gweithio ar y cynyrchiadau rhain. Mae’r nifer o enwebiadau a gwobrau yn destament i ansawdd cynnwys S4C ac i waith caled ac ymroddiad cydweithwyr ar draws y sector cynhyrchu.
“Mae buddugoliaethau Seren a Malan yn dangos y talent sydd gennym yn gweithio ar gynyrchiadau S4C ar y sgrîn, a’r tu ôl iddi, ac rydym yn teimlo’n angerddol am feithrin creadigrwydd a sgiliau.
“Llongyfarchiadau i bawb oedd ynghlwm â’r cynyrchiadau – dwi’n ddiolchgar iawn i chi gyd am eich hymdrechion ac yn falch o’u gweld yn cael eu gwobrwyo.”
I ddathlu’r gyfres boblogaidd S4C Y Cyfweliad, gwnaeth Bronwen Lewis a Fflur Pierce, un o holwyr y gyfres, berfformio Torri’n Rhydd (fersiwn Gymrae o Breakaway gan Kelly Clarkson) yn ystod y noson wobrwyo.
Llun: S4C/Andrew Pirtchard