
1 Hydref 2025
Bydd Sioe Nadolig Cyw ar daith o amgylch Cymru yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr.
Fe fydd Cyw a’r criw yn cynnal perfformiadau o’r sioe yn Felinfach, Llandysul, Llanelli, Y Barri, Y Bala, Caernarfon a Wrecsam.
Bydd sesiynau arbennig ym mhob lleoliad lle bydd gwasanaeth hyrwyddo BSL yn cael ei gynnig.
Yn ymuno â Cyw ar y daith Nadolig bydd Griff, Cati a Dafydd, cyflwynwyr Cyw.
Hefyd yn cymryd rhan bydd Tref y ci direidus, y môr-leidr Ben Dant , Siôn Corn a Cyw!
Mae’r criw yn edrych ymlaen i gael cwrdd â phawb unwaith eto.
Dywedodd Cyflwynwyr Cyw:
"Dewch i barti tanio sled Siôn Corn! Mae hi’n noson fawr ac mae DJ Tref, Ben Dant, y Corachod Direidus a Siôn Corn yn barod i danio’r sled. Ond mae problem - ble mae’r llwch hud hedfan?. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n archebu eich tocynnau ar gyfer yr antur hudol, Nadoligaidd yma.”
Dywedodd Ben Dant:
“Bendibwmbwls, dwi methu aros i gael mynd am yr antur yma gyda Cyw ar y daith Nadolig.
“Dwi wrth fy modd yn cael y cyfle i gyfarfod â phlant Cymru wrth i ni ddiddanu pawb gyda’r Sioe.
“Gobeithio y gwela'i chi yno - Nadolig Llawen iawn i chi gyd. Ahoi!"
Bydd tocynnau yn mynd ar werth am 10.00 ddydd Gwener 10 Hydref.
Er mwyn archebu tocynnau yn Theatr Felinfach ewch i www.theatrfelinfach.cymru neu ffoniwch 01570 407697 ac ar gyfer Neuadd William Aston, Wrecsam: www.williamastonwrexham.com / 01352 344101
Ar gyfer pob lleoliad arall bydd modd archebu tocynnau drwy gysylltu â Galeri Caernarfon ar www.galericaernarfon.com / 01286 685222.