
11 Tachwedd 2025
Ar ddydd Mawrth 11eg Tachwedd, bydd S4C yn darlledu rhaglen ddogfen Curo Tu Ôl I’r Drws. Mae’r rhaglen yn rhannu golygfeydd ‘tu ôl i’r llen’ gan ddangos sut mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymdrin ag achosion o drais yn y cartref o fewn yr ardal heddlu ddaearyddol fwyaf yng Nghymru a Lloegr.
Dyma’r tro cyntaf erioed i llu Dyfed-Powys ganiatáu mynediad i gamerâu allu ffilmio eu harchwiliadau o drais yn y cartref, gan agor y drws i fyd cyfrin ond byd sydd yn effeithio ar gannoedd o bobl bob wythnos, a hynny yn aml o fewn yr ardaloedd mwyaf gwledig yng Nghymru.
“Mae pobol yn meddwl achos bod ni’n byw mewn cymunedau bach gwledig, bod y pethau hyn ddim yn digwydd,” meddai un swyddog. “Ond mae nhw yn digwydd – ac weithiau mae bod yn bell o bob man yn ei gwneud hi’n waeth.”
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymdrin â dros 214 o ddigwyddiadau o drais yn y cartref bob wythnos. Mewn nifer o’r achosion hyn, does dim cymorth am filltiroedd. Mae swyddogion yn esbonio sut gall gymryd hyd at 15 munud i gyrraedd ffermdy anghysbell – “ac fe all lot ddigwydd yn yr amser ’na.”
“Os chi’n byw ar fferm lawr trac tair milltir, smo chi’n gweld pobl,” esbonia un swyddog. “Yr unig berson sydd o gwmpas yw’r troseddwr ei hun.”
Mae’r rhaglen ddogfen yn dilyn Ditectif Cwnstabl Emma Evans a’i chyd-weithwyr yn CID Rhydaman sydd yn cynnwys Ditectif Rhingyll Phil Morgan, ynghyd â Inspector Gareth Jones yn Aberystwyth a nifer eraill o swyddogion ar draws Heddlu Dyfed-Powys, sydd yn esbonio sut mae’r llu yn cefnogi dioddefwyr trwy ganolfannau ar gyfer pobl fregus a’r llinell gymorth Byw Heb Ofn.
Mae’r gwylwyr yn gweld realiti anodd ac emosiynol yr heddlu wrth ymateb i alwadau o drais yn y cartref trwy ddefnydd o gamerâu y mae’r heddlu yn eu gwisgo (body-cam). Gwelwn yr heddlu yn mynd i fewn i’r cartrefi, yn arestio, ac yn casglu tystiolaeth gadarn er mwyn sicrhau cyhuddiadau.
“Mae’n gallu tynnu’r nerth mas ohonot ti,” cyfaddefa DS Phil Morgan, “ond ni’n cael canlyniadau da weithiau a mae’n rhaid i ni gofio hynny a cario ’mlaen.”
Mae Danny Tose sydd yn gweithio fel cynghorydd annibynnol cam-drin domestig - IDVA (Independent Domestic Violence Advocate) yn siarad ar y rhaglen. Mae Danny yn gweithio’n agos gyda’r dioddefwyr yn unionsyth ar ôl y digwyddiad – yn aml pan nad ydynt yn barod eto i gymryd cam cyfreithiol.
“Pryd dyn ni’n siarad gyda phobl yn y sefyllfa ’na, mae’n nhw’n gweld y cam-drin domestig fel rhywbeth sy’n normal, fel just cweryla rhwng partneriaid” meddai. “Dyn ni’n sgwrsio gyda nhw, yn gwrando, a helpu nhw i weld bod ffordd arall.”
Mae mwy a mwy o ddioddefwyr yn penderfynu peidio rhoi tystiolaeth, ac mae’r rhaglen yn dangos pan fo dioddefwyr yn rhy ofnus i siarad, gall tystiolaeth o gamerâu’r heddlu a chyfweliadau fod yn ddigon i sicrhau cyfiawnder yn erbyn y troseddwr.
Yn y rhaglen gwelwn un wraig yn rhannu ei thrawma o gael ei stelcio a sut bod hynny wedi newid ei bywyd. Dyma atgoffa bod effaith o gam-drin yn parhau ar ôl cau yr achos.
Bydd Curo Tu Ôl I’r Drws i’w gweld cyn Diwrnod y Rhuban Gwyn (25 Tachwedd) – ymgyrch rhyngwladol i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Gyda mwy na 1.4 miliwn o achosion o drais domestig wedi’u cofnodi ledled Cymru a Lloegr yn 2024, mae’r rhaglen hon yn codi ymwybyddiaeth am y frwydr barhaus dros ddiogelwch a chyfiawnder.
Fel dywed DC Emma Evans:
“Os gallwn ni helpu un person a falle bydd hynny yn helpu’r person nesaf. Dyna’r peth gorau am weithio yn y byd trais yn y cartref.”
Os ydych chi neu rhywun rydych yn ei adnabod angen cymorth, cysylltwch â Llinell Byw Heb Ofn (Live Fear Free Helpline) ar 0808 80 10 800 – mae cymorth ar gael 24 awr y dydd.