
26 Tachwedd 2025
Mae rhaglen gwis adloniannol newydd sbon ar fin cyrraedd nosweithiau Mercher ar S4C. Bydd Y Deis yn dod â chymysgedd gyffrous o wybodaeth, strategaeth...ac ychydig bach o lwc.
Mae’r fformat gwreiddiol Cymreig hwn sydd wedi’i ffilmio yng Nghaerdydd a’i greu gan gwmni Slam Media yn dechrau ar S4C ar nos Fercher 26 Tachwedd ac yn sicr o gadw gwylwyr ar flaenau eu seddi.
Yn ogystal â’r gyfres wythnosol, mi fydd dwy bennod Nadolig arbennig iawn i’w gweld yn hwyrach yn y flwyddyn gyda rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd a phoblogaidd S4C.
Nid sioe gwis arferol yw hon. Bydd tri thîm o ddau (ffrindiau, teulu, cydweithwyr) yn wynebu ei gilydd dros sawl rownd, gan gronni eu pot trwy feddwl yn gyflym a thactegau clyfar. Ond dim ond un tîm sy'n ennill y cyfle i gyrraedd y rownd derfynol – sy’n ras ddramatig yn erbyn y cloc i gipio'r jacpot. Y tro annisgwyl? Y deis - peiriant a all newid y gêm mewn eiliad.
Eglura’r cyflwynydd James Williams:
“Dyma raglen gwis sydd, yn y bôn, yn gwis gwybodaeth gyffredinol ond mae’r deis yn ychwanegu elfen o lwc a strategaeth a hynny yn gallu newid pethau. Felly mae angen y gallu i ennill y cwis ond hefyd mae pethau yn gallu newid yn eithaf cyflym achos tafliad y deis, felly ti byth cweit yn siŵr pwy sy’n mynd i ennill.”
Mae Y Deis yn gydweithio Celtaidd nodedig. Mae'r darlledwr Gwyddelig TG4 eisoes wedi caffael y fformat i greu An Deis, eu fersiwn Gwyddeleg eu hunain, sydd hefyd wedi’i ffilmio yng Nghaerdydd.
Crëwyd y fformat gan Gavin Cox o Slam Media, a gafodd ei ysbrydoli gan yrfa ei ddiweddar dad yn dylunio gemau peiriannau ffrwyth - tarddiad perffaith ar gyfer cwis sydd yn seiliedig ar sgil a siawns. Y peiriant deis ei hun yw canolbwynt gweledol y rhaglen, sydd yn ychwanegu elfen theatrig i’r chwarae.
Meddai Gavin:
“Fe wnes i dyfu lan yn gwylio fy nhad yn creu gemau a oedd wirioneddol yn addas ar gyfer pobl, a dwi wedi bod yn gobeithio ers amser maith i allu cyflawni'r un peth fel y gall fy mhlant fod yr un mor falch ohonof i. Diolch i gefnogaeth S4C a TG4, rwy’ wedi gallu troi'r uchelgais honno yn rhywbeth go iawn.”
Dyma hefyd ymddangosiad cyntaf cyflwynydd BBC Radio Wales Breakfast, James Williams, fel cyflwynydd ar S4C. Yn wreiddiol o fferm laeth yn San Clêr, Sir Gaerfyrddin, astudiodd James y gyfraith ym Mhrifysgol Bryste, cyn hyfforddi fel newyddiadurwr yn Llundain. Mae James wedi bod gyda BBC Cymru ers 2009 a nawr mae'n barod i ddod â'i egni i her hollol newydd.
Dywedodd James:
“Mae wedi bod yn brofiad anhygoel – ac yn dalcen caled achos mae’n eithaf gwahanol i’r hyn dwi’n arfer gwneud ond mae’n lot o sbri. Mae’r tîm yn wych ac wedi gwneud i fi deimlo’n gyfforddus iawn. Ti moyn i’r rheiny sydd allan yn syth neu wedi ennill y jacpot, i gael profiad a hanner.”
Mae’n credu bydd yr amrywiaeth ym mhob rownd yn cadw’r gwylwyr ar flaen eu seddi:
“Mae pob rownd yn wahanol. Mae angen eich bod chi’n gyflym ar y botwm, chwarae yn erbyn grid ac yn y rownd olaf chi ar wahân fel tîm ar y pwynt hynny - felly mae’n rhaid bod y ddau aelod o’r tîm yn gryf. Mae’r tîm sy’n ennill yn haeddu ennill.”
Ar ben hyn i gyd gall gwylwyr hefyd edrych ymlaen at ddau rifyn Nadolig arbennig, llawn hwyl a chystadleuaeth ffyrnig ymysg y parau adnabyddus. Yn rholio'r deis ar ddiwrnod Nadolig mae:
· Y cyflwynydd a'r naturiaethwr Iolo Williams a'i fab Dewi
· Yr artistiaid a'r cyflwynwyr Dom a Lloyd
· Y gŵr a gwraig ar Pobol y Cwm Jonathan Nefydd a Donna Edwards
Ac ar 31 Rhagfyr cawn weld sut fydd yr enwogion yma’n ymdopi:
· Cyflwynwyr Priodas/Prosiect Pum Mil Trystan ac Emma
· Yr arwyr rygbi Shane Williams a Nigel Owens
· Y gantores a'r actores Lily Beau a'i phartner yr actor Dyfan Rees
Mae James yn credu mai’r hyn sy’n gwneud Y Deis yn arbennig yw ei apêl eang:
“Mae’n rhaglen i bawb. Mae hefyd yn ddiddorol o ran y cystadleuwyr gyda thraws doriad o bobl o bob oedran a dwi’n meddwl bydd cynulleidfa o bob oedran yn gallu ei mwynhau.”
Cynhyrchir Y Deis gan Slam Media gyda chefnogaeth ymchwil a datblygu gan Media Cymru a chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.