Y Wasg

Y Wasg

Tagiau / Y Wasg / 2021

  • Arddangosfa Cymry ar Gynfas i’w gweld yn Storiel

    22 Gorffennaf 2021

    Yn dilyn y gyfres ddiweddaraf o Cymry ar Gynfas, a ddarlledwyd ar S4C ym mis Ebrill, mae gweithiau o'r ddwy gyfres nawr yn cael eu harddangos yn oriel ac amgueddfa Storiel, Bangor.

  • ​​S4C yn lansio gwasanaeth tywydd digidol

    22 Gorffennaf 2021

    Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd gwasanaeth tywydd newydd digidol ar gael ar ap Newyddion S4C o heddiw ymlaen, 22 Gorffennaf.

  • ​Penodiad pwysig wrth i S4C ymestyn i lwyfannau digidol ehangach

    7 Gorffennaf 2021

    Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd Amanda Rees yn ymgymryd â'r gwaith o ymestyn cyrhaeddiad ac ystod cynnwys digidol y sianel fel y Cyfarwyddwr Llwyfannau cyntaf.

  • ​S4C yn penodi rôl newydd Ymgynghorydd Comisiynu

    6 Gorffennaf 2021

    Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd Sioned Wyn Roberts yn ymgymryd â rôl Ymgynghorydd fel rhan o dim Comisiynu'r sianel.

  • S4C yn lansio Emyn i Gymru 2021

    1 Gorffennaf 2021

    Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd cyfres eiconig Dechrau Canu Dechrau Canmol yn 60 oed mae S4C am holi'r gwylwyr i bleidleisio am eu hoff Emyn.

  • Gwyliwch uchafbwyntiau taith y Llewod i Dde Affrica ar S4C

    30 Mehefin 2021

    Bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau holl gemau Llewod Prydain ac Iwerddon ar eu taith i Dde Affrica.

  • Tîm Newyddion Digidol S4C yn ehangu

    30 Mehefin 2021

    Mae S4C wedi cyhoeddi fod y sianel yn ehangu y tîm newyddion digidol i 8 aelod o staff llawn amser.

  • Wythnos o raglenni yn dathlu traethau Cymru ar S4C

    29 Mehefin 2021

    Byddwch yn barod i fynd ar drip i lan y môr. Am wythnos gyfan bydd S4C yn cynnig gwledd o raglenni difyr yn dathlu traethau gorau Cymru.

  • ​Cyfleoedd Cynllun Hyfforddi Newyddiaduraeth ITV ac S4C

    25 Mehefin 2021

    Mae ITV Cymru, mewn partneriaeth gyda S4C, unwaith eto yn chwilio am ddau berson brwdfrydig sydd eisiau datblygu gyrfa ym myd newyddiaduraeth yn y Gymraeg.

  • ​Aelod newydd i dîm Tywydd S4C

    24 Mehefin 2021

    Bydd aelod newydd yn ymuno â thîm cyflwyno Tywydd S4C dros y misoedd nesaf.

  • S4C Lleol ym ymestyn ar draws Cymru

    21 Mehefin 2021

    Mae cynllun sy'n rhoi'r cyfle i gymunedau gynhyrchu a chyhoeddi eu straeon lleol yn cymryd cam cyffrous ymlaen heddiw wrth i ddwy rwydwaith newydd gael ei lansio.

  • S4C yn comisiynu drama sydd yn olrhain bywyd yr arwr rygbi, Ray Gravell

    18 Mehefin 2021

    Mae S4C wedi comisiynu teyrnged arbennig sydd yn bwrw golwg ar fywyd un o arwyr mwya' Cymru.

  • ​S4C yn darlledu gemau rygbi Cymru dros yr Haf

    17 Mehefin 2021

    Bydd gemau tîm rygbi Cymru yn erbyn yr Ariannin dros yr haf i'w gweld yn fyw ar S4C.

  • Cyfle i blant a phobl ifanc greu rhaglenni teledu

    17 Mehefin 2021

    Mae sialens 'Gweld dy hun ar y Sgrin' yn ôl!

  • ​14 enwebiad i S4C yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2021

    15 Mehefin 2021

    Mae S4C wedi derbyn 14 enwebiad yng Ngwobrau Torc Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2021.

  • Anturiaethau dwy ffrind annisgwyl yn parhau ...

    14 Mehefin 2021

    Mae ffilmio ar y gweill ar gyfer yr ail gyfres o'r ddrama gomedi dywyll Enid a Lucy gyda'r gyfres yn ymddangos ar S4C yn gynnar yn 2022.

  • Dogfen S4C yn dilyn cyflwynydd yn nofio ledled Cymru

    14 Mehefin 2021

    Mae S4C wedi comisiynu cyfres ddogfen antur tair rhan yn dilyn taith y cyflwynydd Gareth Jones wrth iddo herio'i hun i nofio 60km i ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed.

  • Rhaglen arbennig yn dathlu pen-blwydd Nigel Owens yn hanner cant

    10 Mehefin 2021

    Mae rhai o chwaraewyr rygbi enwoca'r byd, ffrindiau a theulu wedi talu teyrnged i Nigel Owens wrth i raglen deledu arbennig ddathlu ei ben-blwydd yn 50.

  • ​Partneriaeth newydd yn dod â chyfrinachau'r bedd Celtaidd i'r sgrin

    9 Mehefin 2021

    Bydd rhaglen newydd yn datgelu'r darganfyddiadau archeolegol mwyaf cyffrous mewn degawdau.

  • Gwobr BAFTA UK i un o gyd-gynyrchiadau S4C

    6 Mehefin 2021

    Mae cyd-gynhyrchiad rhwng S4C a Channel 4 wedi ennill gwobr BAFTA UK heno.

  • Darllediad arbennig byd eang ar gyfer Dogfen Wreiddiol S4C

    04 Mehefin 2021

    Mae'n stori galonogol am frawdoliaeth, cymuned a chanu.


  • Gwobr Broadcast i Ysgol Maesincla

    27 Mai 2021

    Mae cynhyrchiad Dim Ysgol: Maesincla wedi ennill gwobr heno am y Rhaglen Cyfnod Clo Orau yng ngwobrau Broadcast.

  • Hyder, Hapusrwydd a Ffrindiau am Oes - Taith FFIT Cymru yn arwain at newid byd i’r pum arweinydd

    27 Mai 2021

    Mae arweinwyr FFIT Cymru wedi llwyddo i wella'u hiechyd yn sylweddol a cholli dros naw stôn rhyngddynt yn ystod y gyfres.

  • Datblygu Partneriaeth Rhwng S4C, Theatr Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod yr Urdd

    26 Mai 2021

    Mae partneriaeth newydd wedi ei gyhoeddi heddiw rhwng S4C, Theatr Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod yr Urdd i gydweithio ar gystadleuaeth Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod T.

  • 6 sesiwn Lŵp: Ar Dâp i ddod yn 2021

    26 Mai 2021

    Yn dilyn ar lwyddiant taith y Stafell Fyw, bydd cyfres o 6 sesiwn estynedig o'r enw Lŵp: Ar Dâp yn dod i blatfform Lŵp S4C dros y misoedd nesaf.

  • ​Holl gemau UEFA EURO 2020 Cymru yn fyw ar S4C

    25 Mai 2021

    Bydd holl gemau tîm pêl-droed Cymru yn ystod UEFA EURO 2020 yr haf yma i'w gweld yn fyw, yn Gymraeg, ar S4C a S4C Clic.

  • Sioned Geraint yw Comisiynydd Plant a Dysgwyr newydd S4C

    24 Mai 2021

    Mae S4C yn falch o gyhoeddi mai Sioned Geraint yw Comisiynydd Plant a Dysgwyr newydd S4C.

  • Lansiad cylchgrawn newydd Cyw

    20 Mai 2021

    Mae Cyw, gwasanaeth S4C i wylwyr ieuengaf y sianel wedi bod yn diddori ac addysgu plant bach (heb sôn am wneud bywyd yn haws i rieni) ers iddo sefydlu yn 2008. A nawr, bydd ychwanegiad newydd sbon i'r gwasanaeth, sef Cylchgrawn Cyw.

  • ​Dilynwch y Chwe Gwlad Dan-20 ar S4C a BBC Cymru

    18 Mai 2021

    Bydd S4C a BBC Cymru yn darlledu pob gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad Dan-20 2021.

  • Cefnogaeth Ariannol i Gomisiynau Plant a Phobl Ifanc S4C

    17 Mai 2021

    Mae tri chwmni cynhyrchu o Gymru ac un cwmni o Ogledd Iwerddon wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau diweddaraf i'r Gronfa Cynnwys i Gynulleidfaoedd Ifanc Y Deyrnas Unedig