
20 Gorffennaf 2026
Bydd cynhyrchwyr bwyd o ogledd Cymru yn cael eu dathlu mewn cyfres goginio newydd gyda’r cogydd Bryn Williams ar S4C ym mis Hydref.
16 Gorffennaf 2026
Ymunwch ag S4C yr haf hwn i wylio holl gystadlu a bwrlwm un o brif ddigwyddiadau calendr amaethyddol Prydain - Sioe Frenhinol Cymru.
8 Gorffennaf 2026
Mae oriau ffrydio S4C wedi cyrraedd eu lefel uchaf erioed gyda thwf sylweddol ar draws y cyfrifon cymdeithasol, yn ôl adroddiad blynyddol y darlledwr.
2 Gorffennaf 2026
Mae S4C wedi buddsoddi dros £136m mewn drama yng Nghymru yn ystod y ddegawd ddiwethaf.
30 Mehefin 2026
Mae S4C wedi sicrhau'r hawliau i ddarlledu'r Tour de France yn 2026, gan roi cyfle i wylwyr ddilyn y ras feicio fwyaf yn y byd trwy gyfuniad o gymalau byw ac uchafbwyntiau.
22 Mehefin 2026
Mae Effi o Blaenau wedi profi i fod yn boblogaidd gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru a gweddill y DU, yn dilyn ei rhyddhau i ganmoliaeth arbennig penwythnos hwn, gan sicrhau’r agoriad mwyaf erioed i ffilm Gymraeg yn y swyddfa docynnau. Gyda nifer cyfyngedig o ychydig dros 30 o sinemâu yn ei dangos, torrodd y ffilm y record sydd wedi cael ei dal gan y ffilm Gwledd, a ryddhawyd yn 2022. Bydd Effi o Blaenau nawr yn ehangu ei dangosiadau gyda chyfle o hyd i'w gwylio ar draws Cymru ac mewn dinasoedd ledled y DU.
19 Mehefin 2026
Bydd Y Llais yn ôl am drydedd gyfres ar S4C yn 2027.
18 Mehefin 2026
Bydd S4C yn darlledu’n fyw o Bencampwriaeth Ewrop D19 UEFA 2026 dros yr haf, wrth i Ogledd Cymru gynnal y twrnamaint rhyngwladol am y tro cyntaf.
18 Mehefin 2026
Mae dyn ifanc yn dweud iddo ddod yn agos at niweidio ei hun â morthwyl ar ôl cael ei ddylanwadu gan ddylanwadwyr ar-lein.
Bydd dylanwad y manosffer ar agweddau dynion ifanc Cymru tuag at fenywod, perthnasoedd a’u bywydau eu hunain yn cael ei archwilio gan gyn-Miss Cymru Sara Mancipp mewn dwy raglen arbennig ar S4C.
17 Mehefin 2026
Bydd S4C yn darlledu pob gêm Cymru yn y gystadleuaeth rygbi newydd, Pencampwriaeth y Cenhedloedd, yn fyw am y bedair mlynedd nesaf.